Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Asesiad Anghenion Gofalwr

Mae gennych hawl i asesiad gofalwr i gael mwy o gefnogaeth yn eich rôl yn cefnogi neu ofalu am rywun.

Beth yw asesiad gofalwr?

Mae asesiad gofalwr yn sgwrs sy'n helpu i ganfod pa help y gallai fod ei angen arnoch i'ch cefnogi yn eich rôl fel gofalwr di-dâl.

Mae'r asesiad/sgwrs yn gyfle i chi drafod sut mae eich cyfrifoldebau gofalu yn effeithio arnoch chi.

Gallai unrhyw ofalwr ym Mhowys y mae'n ymddangos bod ganddo anghenion cymorth gael asesiad gan Gyngor Sir Powys.

Sut mae'n gweithio

Bydd yr asesiad/sgwrs yn cwmpasu:

  • eich rôl gofalu
  • a ydych yn fodlon ac yn gallu parhau i ddarparu gofal
  • a yw eich cyfrifoldebau gofalu yn cael effaith ar eich lles
  • eich teimladau am ofalu.
  • eich lles corfforol, meddyliol ac emosiynol
  • sut mae gofalu yn effeithio ar eich gwaith, hamdden, addysg, teulu ehangach, a pherthnasoedd
  • yr hyn yr hoffech ei gyflawni yn eich bywyd o ddydd i ddydd
  • a oes angen unrhyw gymorth arnoch
  • a ydych yn gymwys i gael unrhyw gymorth gan y cyngor

Sut i ofyn am asesiad gofalwr

Byddwn hefyd yn edrych i weld a oes angen gwybodaeth neu hyfforddiant arnoch ac yn ystyried yr effaith y mae gofalu yn ei gael ar eich bywyd gwaith a hamdden yn ogystal â'ch iechyd a lles. Cyn yr asesiad, meddyliwch am y math o gymorth a fyddai'n eich helpu.

Gallwch ofyn i'r asesiad gael ei gynnal yn gyfrinachol, ar amser cyfleus, heb i'r person yr ydych yn gofalu amdano fod yno. Gallwch gael rhywun arall yno i'ch cefnogi. Dylech drafod hyn gyda'ch Rheolwr Gofal. Wedi hynny, byddwch yn cael copi o'ch asesiad a chyngor am y gwasanaethau, y wybodaeth neu'r cymorth a allai eich helpu.

Gofyn am Asesiad Gofalwr Gofyn am Asesiad Gofalwr

Os ydych yn gofyn am asesiad gofalwr mewn perthynas â phlentyn neu ofalwr ifanc, cysylltwch â Credu ar-

01597 823800

https://www.carers.cymru/

carers@credu.cymru 

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau