Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Siarter Cwsmeriaid

Customer experience

Mae'r siarter hon yn amlinellu'r safonau a'r ymddygiadau y gallwch eu disgwyl gennym ni a'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi. Ein cwsmeriaid yw ffocws popeth a wnawn a'r ffordd yr ydym yn gweithio. Ein nod yw darparu gwybodaeth a chyngor o ansawdd uchel ni waeth sut y byddwch yn dewis cysylltu â ni.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Ymdrechu i ateb eich ymholiad yn y pwynt cyswllt cyntaf pryd bynnag y bo modd a'ch helpu i olrhain ei gynnydd.
  • Cynnig amrywiaeth o ffyrdd o gael mynediad at ein gwasanaethau, gan gynnwys profiad ar-lein cyflymach a haws.
  • Anelu at ddod o hyd i ateb boddhaol a chael agwedd 'gallu gwneud' o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
  • Bod yn ddibynadwy, yn agored ac yn gwrtais, gan eich trin â pharch a chwrteisi.
  • Gwrando arnoch ac ymateb yn glir ac yn gryno.
  • Ymddiheuro ac ymateb i'ch cwynion os aiff pethau o chwith a gwneud ein gorau i unioni pethau.

Byddwn yn gofyn i chi wneud y canlynol:

  • Cyrchu ein gwasanaethau ar-lein cymaint â phosibl, pan fyddant ar gael.
  • Cydnabod nad oes gennym ddigon o adnoddau i gwrdd â phob angen.
  • Darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i'ch helpu mewn modd amserol.
  • Gofyn i ni esbonio unrhyw beth nad ydych yn siŵr ohono.
  • Cadw unrhyw apwyntiadau sydd gennych gyda ni a rhoi gwybod i ni os na allwch ddod.

Byddwn yn barchus drwy wneud y canlynol 

  • Gwrando arnoch chi'n astud a deall eich anghenion.
  • Cynnal eich hawliau i breifatrwydd a chyfrinachedd.
  • Rhyngweithio â chi mewn ffordd gwrtais, gymwynasgar, agored a gonest.
  • Sicrhau triniaeth deg a pharchus i bawb, gan ganolbwyntio'n gryf ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Esbonio ein penderfyniadau a'n canlyniadau yn glir.
  • Sicrhau bod ein gwybodaeth mewn fformat sy'n hawdd ei chyrchu a'i deall.

Er mwyn ein helpu ni, gofynnwn yn garedig i chi wneud y canlynol:

  • Cyfathrebu'n glir am yr hyn sydd ei angen arnoch a sut y gallwn ni helpu.
  • Ein trin yn gwrtais a gyda pharch
  • Peidio â defnyddio ymddygiad ymosodol neu iaith amhriodol, gan na fydd yn cael ei oddef.

Sut y byddwn yn gwneud hyn...

  • Byddwn yn gwneud hyn drwy wella'r ffordd yr ydym yn rhyngweithio â chi, trwy ddefnyddio'r model newid 4 egwyddor. Gan ddilyn y model hwn a nodi dangosyddion perfformiad a chanlyniadau allweddol, byddwn yn ymdrechu i gyflawni ein siarter cwsmeriaid.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu