Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae cymorth ar gael ar gyfer costau olew gwresogi sy'n codi.

Egwyddorion Profiad Cwsmeriaid

principles

Mae ein hegwyddorion profiad cwsmeriaid yn llywio sut rydym yn dylunio ac yn darparu ein gwasanaethau, gan sicrhau profiad cadarnhaol a chydlynol i chi. Datblygwyd y saith egwyddor hyn drwy ymgysylltu ac ymgynghori â chwsmeriaid.

Pobl: Byddwn yn sefydlu diwylliant "cwsmer yn gyntaf oll" ar draws y cyngor sy'n llywodraethu sut y byddwn yn datblygu, gwella, dylunio a darparu ein gwasanaethau.

Ymgysylltu a Chyfathrebu: Byddwn yn gwrando ein cwsmeriaid ac yn cydweithio â nhw dros y gwasanaethau y maent eu heisiau, y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, a sut y dylid eu darparu.

Llywodraethu: Byddwn yn sicrhau bod uwch reolwyr ar draws y gwasanaethau yn cymryd perchnogaeth o daith a phrofiad y cwsmer.

Lleoedd: Gwneud Powys yn sir lle mae ei thrigolion yn ymwybodol o wasanaethau'r cyngor a sut i gael mynediad atynt, mewn ffordd o'u dewis.

Technoleg Ddigidol: Byddwn yn defnyddio technoleg ddigidol, yn ddiogel ac yn foesegol, fel y prif ateb i ddarparu gwasanaethau ar adegau sy'n gyfleus i'r cwsmer.

Cwsmer: Dylai cwsmeriaid ddeall yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan y cyngor a'r hyn y mae'r cyngor yn ei ddisgwyl ganddynt.

Gwybodaeth am Berfformiad a Data: Byddwn yn defnyddio data'r Cyngor i wella a phersonoli darpariaeth gwasanaeth a chyfathrebu, ac i fonitro ac adrodd ar berfformiad.

Rhannwch y dudalen hon