Cyflwyno Gwobrau Nofio Cymru yng Nghanolfannau Freedom Leisure ym Mhowys

18 Mawrth 2025

Roedd yr ymddiriedolaeth hamdden yn llwyddiannus mewn dau gategori, Darparwr y Flwyddyn ar gyfer Dysgu Nofio a'r Wobr am Fenter Cynaliadwyedd.
I ddathlu'r acolâdau hyn, croesawodd Freedom Leisure gynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys a oedd wrth eu bodd yn cyflwyno'r tlysau i Freedom Leisure gan gydnabod y llwyddiant ymhellach o'r holl staff a chanolfannau ym Mhowys am eu hymroddiad a'u hangerdd wrth ddarparu rhaglen dysgu nofio arobryn, sy'n addysgu miloedd o oedolion a phlant y 'sgil bywyd' hanfodol o nofio, ledled Powys.
Dywedodd Prif Weithredwr Freedom Leisure, Ivan Horsfall Turner: "Mae'r gwobrau hyn yn perthyn i'n canolfannau a'n cydweithwyr anhygoel sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi eu cymunedau. Rydym wrth ein boddau fod Nofio Cymru yn gallu cyflwyno'r tlysau i'n cydweithwyr i arddangos eu gwaith caled a'u hangerdd sy'n gwneud y canolfannau yn hybiau sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint ar gyfer nofio a llawer mwy."
Dywedodd y Cyngh. Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Rydym ni'n hynod o falch o'r hyn mae Freedom Leisure wedi'i gyflawni yng Ngwobrau Nofio Cymru. Mae eu hymroddiad wrth ddarparu rhaglenni nofio o'r radd flaenaf a mentrau cynaliadwyedd yn wirioneddol gymeradwy.
"Mae'r gwobrau hyn yn amlygu'r gwaith caled ac angerdd y staff yn ein canolfannau hamdden, sy'n chwarae rôl hanfodol wrth addysgu nofio i filoedd o oedolion a phlant sef sgil bywyd hanfodol.
Wrth i ni edrych ymlaen at yr haf, ryw'n annog pawb ym Mhowys i fanteisio ar y gwersi nofio ardderchog sydd ar gael a gwneud y mwyaf o'n cyfleusterau hamdden ffantastig."
Gyda'r haf ar ein gwarthaf, nawr yw'r amser i ddysgu nofio neu wella eich techneg nofio gyda'r Darparwr Dysgu Nofio gorau yng Nghymru.
Mae gwersi ar gael i blant ac oedolion o bob lefel ledled y Sir. Gallwch ddarganfod rhagor yma https://www.freedom-leisure.co.uk/welsh/ein-cyfleusterau/gwersi-nofio/ a dechrau heddiw!