Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Cabinet i ystyried y newyddion diweddaraf am Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy

Bwyd Powys Food

19 Mawrth 2025

Bwyd Powys Food
 Bydd y cabinet yn cael ei ddiweddaru ar waith parhaus Bwyd Powys Food, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Powys, yn ôl y cyngor sir.

Yn dilyn lansio Bwyd Powys - Gweledigaeth Fwyd, Strategaeth a Chynllun Gweithredu ar gyfer Powys, ym mis Gorffennaf 2024, mae'r Cabinet yn cael ei ddiweddaru ar y gweithgareddau sydd wedi'u cynnal a'u cefnogi gan Gyngor Sir Powys hyd yma.

Mae rhai o'r gweithgareddau'n cynnwys:

  • Anheddau Menter Wledig ar gyfer Garddwriaeth ar Raddfa Fach - canllawiau cynllunio newydd, a ddatblygwyd ar y cyd â Bwyd Powys Food a phartneriaid eraill, i gefnogi a chynorthwyo mentrau garddwriaethol ar raddfa fach, i helpu i'w gwneud yn haws cael caniatâd cynllunio ar gyfer tŷ lle mae angen i'r tyfwr fod yn agos at ei gnydau.
  • Llysiau Cymreig mewn Ysgolion - mewn partneriaeth â chwe awdurdod lleol arall yng Nghymru a Chastell Howell, cafodd tair ysgol uwchradd ym Mhowys lysiau o Gymru gan dyfwyr graddfa fechan drwy Gastell Howell, fel rhan o'r prosiect peilot yn 2024.
  • Cooking Counts - Ariannodd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 45 o unigolion i gwblhau cwrs coginio chwe wythnos gyda'r nod o wella maeth, rhifedd a sgiliau coginio, trwy weithgareddau ymarferol ac arddangosiadau grŵp.
  • Bwyta'n Gall, Cynilo'n Well - sesiynau grŵp gyda'r nod o annog preswylwyr i fwyta'n iach ac ar gyllideb. Gwnaethant gynnig cyngor ymarferol i 226 o unigolion ar draws 32 lleoliad i helpu i greu prydau bwyd maethlon a chost-effeithiol i deuluoedd.
  • Bwyd a Hwyl - rhaglen addysg mewn ysgolion, a weinyddir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, darparu addysg bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol, sesiynau cyfoethogi, a phrydau iach i blant yn ystod gwyliau haf ysgolion.
  • Fferm Sarn /Future Farm - ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin DU a Cham 3 Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau a gweithio gyda Our Food 1200 i dreialu creu tair fferm newydd ar dir y Cyngor, i gefnogi newydd-ddyfodiaid i ffermio, i dyfu bwyd mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, ac i gefnogi'r economi sylfaenol.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Fel rhan o'n hymrwymiad i adeiladu Powys gryfach, decach a gwyrddach, hoffem weld mwy o'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta yn cael ei dyfu yma yn ein sir ein hunain, gan hyrwyddo system fwyd lle mae bwyd lleol, cynaliadwy ac iach yn hygyrch i bawb, gan gefnogi llesiant cymunedau,  unigolion, a'r amgylchedd."

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Fwy Diogel: "Mae helpu pobl i fwynhau eu bwyd a bwyta'n iach yn ganolog i'n gweledigaeth a'n strategaeth fwyd ar gyfer Powys. Mae'r gweithgareddau rydym wedi'u cynnal hyd yma wedi cyfrannu at hynny, gan roi'r sgiliau i bobl baratoi bwyd blasus yn ddiogel. Mae paratoi bwyd sylfaenol yn un o'r sgiliau hanfodol ar gyfer mwynhau bywyd da, ond mae angen i ni sicrhau bod bwyd maethlon a dyfir yn lleol yn fforddiadwy. Rydym wedi ymrwymo i Bartneriaeth Bwyd Powys a'r weledigaeth gyffredinol; i sicrhau "Bwyd da i Bowys"."

Bydd y wybodaeth yn cael ei hystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth, 25 Mawrth.

Gellir cyrchu Gweledigaeth, Strategaeth a Chynllun Gweithredu Bwyd cyflawn Powys yma: https://www.cultivate.uk.com/wp-content/uploads/2024/08/BPF-R4C-Cymraeg-Final.pdf

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu