Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Datgloi £11.8m yn rhagor ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru wrth i'r prosiect cyntaf ddwyn siâp

The visit to the Elan Valley Lakes development

24 Mawrth 2025

The visit to the Elan Valley Lakes development
Mae llywodraethau'r DU a Chymru wedi cadarnhau bod £11.8m o gyllid wedi'i ryddhau i Ganolbarth Cymru fel rhan o becyn buddsoddi i roi hwb i economi'r rhanbarth.

Daeth y cyhoeddiad wrth i Weinidogion fynd ar daith yr wythnos hon i weld y prosiect cyntaf i gael cefnogaeth Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy'n cael ei chefnogi gan y ddwy lywodraeth er mwyn denu mwy o fuddsoddi oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Roedd yr ymweliad â datblygiad Llynnoedd Cwm Elan - sy'n ceisio gosod meincnod newydd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy - yn gam mawr ymlaen i'r Fargen Dwf wrth i brosiectau ddechrau mynd yn eu blaen o'r cam cynllunio i'r cam cyflawni.

Bydd y pecyn gwaith cyntaf yn hybu profiad ymwelwyr, yn cynyddu refeniw yn lleol ac yn cynnal harddwch naturiol a bioamrywiaeth Cwm Elan. Bydd y pwyslais ar ddau faes allweddol:

  • Ehangu'r Goedwig Law Geltaidd - Cysylltu ac adfer 117 hectar o goetiroedd tameidiog fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
  • Dylunio'r Ganolfan Ymwelwyr - Rhoi cychwyn ar y dyluniadau ar gyfer yr ailddatblygu er mwyn hybu profiad ymwelwyr ac integreiddio addysg amgylcheddol ac arferion cynaliadwy.

Rhagwelir y bydd y cam cyntaf ar ei ben ei hun yn dod â budd economaidd blynyddol o £4m ac y bydd y prosiect yn cyfrannu £17m i'r economi ranbarthol erbyn 2040.

Cafodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith, ac Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, eu croesawu gan gynrychiolwyr o Dyfu Canolbarth Cymru, sef y bartneriaeth ranbarthol sy'n goruchwylio'r Fargen Dwf, ynghyd â'r datblygwyr Dŵr Cymru.

Yno, cadarnhaodd y Gweinidogion fod Llywodraethau Prydain a Chymru wedi datgloi ail gyfran cyllid y Fargen Dwf, sy'n werth cyfanswm o £11.8m.

Dywedodd y Fonesig Nia Griffith DBE AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru: "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut mae Llywodraeth y DU yn cefnogi'r rhanbarth i gyflawni ein cenhadaeth o dwf economaidd drwy hybu twristiaeth a chreu swyddi.

"Mae Cwm Elan yn lle hyfryd a bydd y gwelliannau hyn yn golygu bod y profiad o ymweld â'r ardal yn well eto, gan warchod yr amgylchedd ar yr un pryd."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: "Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn ein gweledigaeth ar gyfer ffyniant economaidd ledled Cymru. Mae gan briosect Llynnoedd Cwm Elan y potensial i drawsnewid gan ddenu ymwelwyr, creu swyddi a gosod Canolbarth Cymru fel cyrchfan o bwys mewn Cymru lewyrchus, werdd a theg."

Gwnaeth Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd  James Gibson-Watt ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies bwysleisio'r manteision ehangach: "Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn gwella ein sector twristiaeth ond hefyd yn blaenoriaethu cadwraeth a chynaliadwyedd. Bydd yn creu swyddi yn uniongyrchol ac yn yr economi ehangach. Rydym yn ymroi i gefnogi'r prosiect wrth iddo fynd rhagddo."

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Mae'r prosiect hwn yn brawf o'n hymrwymiad i dwristiaeth gynaliadwy ac adfywio amgylcheddol gan chwarae ein rhan yn 'Nhîm Cymru' wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Bydd yn trawsnewid Cwm Elan yn gyrchfan o bwys gan ddod â budd i'n cwsmeriaid a'r gymuned leol."

LLUN: Roedd yr ymweliad â datblygiad Llynnoedd Cwm Elan.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu