Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

System archebu Canolfan Ailgylchu Cartrefi ar agor

Image showing someone booking a time slot to visit a recycling centre on their phone

25 Mawrth 2025

Image showing someone booking a time slot to visit a recycling centre on their phone
O 1 Ebrill, bydd angen i chi archebu slot amser ymlaen llaw i ymweld â'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. Gallwch archebu eich ymweliadau heddiw, dydd Mawrth 25 Mawrth, ar gyfer ymweliadau o 1 Ebrill.

Gallwch archebu slot amser hyd at naw diwrnod ymlaen llaw, gydag archebion ar gael ar gyfer ymweliadau o 1 Ebrill ar gael nawr.  Dilynwch y cyfarwyddiadau ar-lein i archebu slot amser yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi dewisol.  Bydd angen i chi ddarparu eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif cofrestru'r cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer yr ymweliad. 

Archebwch ymweliad â'r ganolfan ailgylchu yn gyflym ac yn hawdd ar-lein nawr yn y fan yma: Canolfannau Ailgylchu 

Gallwch hefyd archebu slot amser dros y ffôn drwy ffonio: 01597 827465. Fodd bynnag, os y gallwch, mae defnyddio'r ffurflen ar-lein yn ffordd gyflymach o archebu eich ymweliad a bydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi os oes angen i chi ddiwygio'ch archeb neu ganslo. Mae cynghorau eraill wedi adrodd bod dros 98% o archebion yn cael eu gwneud ar-lein a byddem yn annog trigolion Powys i wneud yr un peth. Mae hyn yn golygu na fydd canolfan alwadau'r cyngor yn cael ei llethu a bydd yn gallu ymdopi â'r rhai sydd wir angen archebu dros y ffôn. 

Mae'r system archebu ar gyfer y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi wedi'i chyflwyno er mwyn: 
 
•    lleihau tagfeydd ac amseroedd ciwio 
•    gwneud ymweliadau'n haws ac yn gyflymach  
•    caniatáu mwy o amser i staff helpu ymwelwyr a allai fod angen cyngor a/neu gymorth ar y safle 
•    gwella cyfraddau ailgylchu 
•    lleihau defnydd nad yw'n ddilys gan weithredwyr masnachol a defnyddwyr o du allan y sir 

Mae cyflwyno'r system archebu hefyd yn golygu y bydd diogelwch defnyddwyr ar safleoedd yn haws i'w reoli ac, o ganlyniad, byddwn yn gallu derbyn archebion gan drigolion sy'n dymuno ymweld ar droed neu ar gefn beic. 

"Rydym yn sylweddoli nad yw rhai pobl yn edrych ymlaen at y newidiadau yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, ond mae'r adborth a gasglwyd mewn arolygon trigolion gan gynghorau eraill yn cadarnhau bod y systemau'n gweithio'n dda ac mae trigolion yn hapus iawn unwaith y bydd y system wedi cael amser i'w sefydlu."  Eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mewn gwirionedd, mewn arolwg diweddar gan gyngor yng Ngogledd Cymru, roedd 81% o drigolion yn ystyried bod y system archebu newydd yn ardderchog, gyda 83% o blaid ei chadw yn ei lle.  

"Mae newid bob amser yn her i ddechrau. Ond yn fuan bydd yn ail natur i archebu slot amser ymlaen llaw yn yr un modd ag yr ydym yn trefnu apwyntiadau ar gyfer llawer o bethau eraill mewn bywyd, a bydd yn gwneud eich ymweliad â'r ganolfan ailgylchu gwastraff cartrefi yn fwy effeithlon gan wybod bod gennych eich slot eich hun i ailgylchu eich gwastraff gyda chymorth y staff, os oes angen.

"Mae yna ddryswch o hyd yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r trefniadau newydd, a byddem yn annog pawb i edrych ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf sy'n cynnwys cyfres lawn o gwestiynau cyffredin Canolfannau Ailgylchu."   

O 1 Ebrill 2025, bydd angen i chi hefyd wneud taliad bach i fynd â rhai eitemau o wastraff DIY i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. Ffordd hawdd o ddeall beth sy'n cael ei ystyried i fod yn wastraff DIY yw i feddwl am ba eitemau neu ddeunyddiau na fyddech chi'n mynd gyda chi pe baech chi'n symud tŷ. Er enghraifft, cypyrddau cegin, sinc, baddon ac ati o ystafelloedd ymolchi, ffenestri, drysau, patios, pridd, paneli ffens, ac ati - os na fyddech chi'n mynd ag ef, yna mae'n debygol o fod yn wastraff DIY.

Byddwn yn codi ffioedd am fathau penodol o wastraff DIY yn unig (gweler Canolfannau Ailgylchu am restr lawn), yn enwedig ar gyfer deunyddiau sydd â chost prosesu i'w hailgylchu. Nid yw'r ffioedd hyn wedi'u cyflwyno i wneud elw ac rydym wedi'u cadw mor isel â phosibl.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghyd â set lawn o gwestiynau cyffredin ar-lein: Canolfannau Ailgylchu 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu