Y Cyngor yn codi'r to gyda buddsoddiad mawr yn Fflatiau Llys Nant

26 Mawrth 2025

Fel rhan o'r buddsoddiad hwn o £450,000, gosodwyd to ar oleddf newydd, wedi'i inswleiddio iawn yn Fflatiau Llys Nant, dan oruchwyliaeth Gwasanaeth Tai y cyngor.
Wedi'u hadeiladu'n wreiddiol ym 1974, roedd y fflatiau'n dyst i ddiferu parhaus o'r to gwastad â pharapet dros y degawd diwethaf. Er gwaethaf atgyweiriadau dros dro, parhaodd dŵr i dreiddio o dan y toi bitwmen i bob cyfeiriad, gan wneud atgyweiriadau llawn yn amhosibl.
Fodd bynnag, mae'r cyngor wedi datrys y broblem drwy oruchwylio'r gwaith o osod to ar oleddf, gan sicrhau dyfodol diddos i'r preswylwyr.
Cafodd y prosiect, a gychwynnodd ym mis Ebrill 2024 ac a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr, ei reoli o dan arbenigedd y prif gontractwr SWG Construction, gyda D.J.C. Lightweight Roofing Ltd yn cymryd yr awenau fel y contractwr toi. Darparodd Britmet UK y system toi ysgafn, gyda chydrannau o dan warant am 50 mlynedd.
Yn ogystal ag ailosod y to, gosodwyd rhwystrau tân rhwng pob bloc o fflatiau, ychwanegwyd ataliad tân mewn ardal gymunedol, a chryfhawyd codiad to cantilever. Cafodd gwaith draenio helaeth ei wneud hefyd, a derbyniodd fflatiau ar y lloriau uchaf gôt ffres o baent.
Roedd buddion cymunedol hefyd yn rhan o'r pecyn, gyda gwaith brics allanol a rendr yn cael eu tacluso, gosod blychau i'r wennol ddu ac adar eraill, a gwella mannau gwyrdd gyda phlannu a thirlunio newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Fel rhan o'n Cynllun Busnes Tai Gartref ym Mhowys, rydym yn buddsoddi mwy na £6.8m i wella lles cymunedau drwy welliannau i gartrefi ac ystadau cyngor.
"Rwy'n falch iawn bod y gwaith hwn wedi digwydd a bod Fflatiau Llys Nant wedi elwa o'r buddsoddiad sylweddol hwn, sy'n dangos ein hymrwymiad i wella ansawdd tai i'n trigolion."
Dywedodd Shaun Humphries, Cyfarwyddwr SWG Construction: "Yn SWG Construction, rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan allweddol wrth drawsnewid Fflatiau Llysnant yn ofod byw mwy diogel a chynaliadwy i'r preswylwyr. Mae'r buddsoddiad hwn o £450,000 yn gam pwysig wrth fynd i'r afael â materion toi hirsefydlog, gan hefyd wella ansawdd bywyd cyffredinol y gymuned.
"Mae ein hymrwymiad i ddarparu atebion hirhoedlog o ansawdd uchel yn amlwg yn y gwaith a wneir, ac rydym yn falch o weld yr effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol a'r trigolion. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Chyngor Sir Powys ar brosiectau yn y dyfodol sy'n gwella cartrefi ac yn cryfhau cymunedau."