Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Bydd y Cyngor yn gwneud ymdrech benderfynol i lywio gwelliannau addysg

Image of a group of children working together on a science project

27 Mawrth 2025

Image of a group of children working together on a science project
Mae uwch arweinwyr Cyngor Sir Powys wedi addo cryfhau gwasanaethau addysg a gwella canlyniadau i ddysgwyr y sir yn dilyn arolwg siomedig gan Estyn.

Gwnaeth arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru arolwg o wasanaethau addysg y cyngor ym mis Chwefror a heddiw (Mawrth 27) gwnaethant gyhoeddi eu canfyddiadau.

Roedd arolygwyr o'r farn bod y cyngor yn achosi pryder sylweddol. Mae'r adroddiad yn cynnwys yr argymhellion canlynol i sicrhau gwelliannau angenrheidiol:

  1. Sicrhau bod yr awdurdod lleol yn mynd i'r afael â materion diogelwch pwysig ar safleoedd ysgolion ar frys
  2. Cryfhau ansawdd ac effaith arweinyddiaeth, gan gynnwys arweinyddiaeth wleidyddol, ar bob lefel
  3. Cryfhau ansawdd y gefnogaeth a'r her i ysgolion i wella canlyniadau i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY
  4. Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a gweithredu model ar gyfer addysg 16-19 oed sy'n hyfyw ac yn gynaliadwy yn ariannol, ac sy'n diwallu anghenion pob dysgwr, ac sy'n rhoi ystyriaeth i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ADY.

Yn ei adroddiad, roedd Estyn yn cydnabod gwaith diweddar y cyngor i gryfhau perthynas ac ymddiriedaeth gydag ysgolion, sydd wedi cynnwys ymgysylltu ag arweinwyr ysgolion i ystyried y rhwystrau sy'n eu hatal rhag sicrhau gwelliannau cyflym yn ansawdd y ddarpariaeth i'w disgyblion.

Mae nodau a bwriadau eang Strategaeth ddeng mlynedd y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn glir ac wedi'u hintegreiddio â strategaethau eraill y cyngor gan gynnwys Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA), canfu'r arolygiaeth. Roedden nhw'n cydnabod bod CSCA wedi cael effaith gadarnhaol ar gynyddu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gael mynediad at eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Canfu'r arolygiaeth hefyd fod gan dîm blynyddoedd cynnar y cyngor oruchwyliaeth a dealltwriaeth dda o'r lleoliadau nad ydynt yn cael eu cynnal ac yn darparu cymorth defnyddiol, wedi'i deilwra, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar wella'r ddarpariaeth a'r arweinyddiaeth mewn lleoliadau ac sy'n cael ei werthfawrogi gan staff.

Dywedodd Estyn fod gan y cyngor wybodaeth dda o beth yw sefyllfa ariannol ei ysgolion a bod swyddogion cyllid yn darparu gwybodaeth amserol a chlir i arweinwyr addysg am sefyllfa ariannol pob ysgol.

Bydd yr adroddiad a'r argymhellion, y mae'r cyngor wedi'u derbyn, yn sail i gynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r meysydd allweddol sydd angen eu gwella. Bydd Estyn yn adolygu cynnydd y cyngor trwy gyfres o ymweliadau monitro.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Hoffwn ddiolch i'r arolygwyr am eu gwaith. Rydym yn derbyn eu canfyddiadau a byddwn yn gweithredu i gyflawni'r newid sydd ei angen i gryfhau ein gwasanaethau addysg.

"Bydd yr adroddiad yn sail i gynllun gweithredu y byddwn yn ei ddatblygu i fynd i'r afael â'r argymhellion. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau addysg eithriadol sy'n cefnogi ein hysgolion fel y gallant roi'r sylfaen orau i'n pobl ifanc ar gyfer eu dyfodol.

"Er gwaethaf yr angen am wella, mae Estyn wedi cydnabod nifer o feysydd cadarnhaol fel ein gwaith i gryfhau perthnasoedd ac ymddiriedaeth gyda'n hysgolion a'n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

"Byddwn yn gweithio gydag Estyn, ein hysgolion, a'n cyrff llywodraethu i sicrhau bod ein cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar y meysydd sydd angen eu gwella. Bydd hyn yn sicrhau bod ein gwasanaethau addysg yn cael eu cryfhau a byddant mewn sefyllfa well i gefnogi ein hysgolion i ddarparu addysg ragorol ledled y sir.

"Trwy weithio gyda'n hysgolion a'u cyrff llywodraethu, rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni'r gwelliannau angenrheidiol gan sicrhau ein bod yn darparu'r addysg a'r cyfleoedd y mae plant a theuluoedd Powys yn eu haeddu a'u disgwyl."

Mae Estyn hefyd wedi cyhoeddi eu hadroddiad arolygu i Wasanaethau Ieuenctid y cyngor heddiw (Mawrth 27). Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at waith cadarnhaol y gwasanaeth, sydd oddi fewn  i Wasanaethau Addysg.

I ddarllen y ddau adroddiad ewch i www.estyn.llyw.cymru

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu