Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Gwasanaethau Ieuenctid yn derbyn adroddiad cadarnhaol

Image of a multi ethnic group of teenagers in a park

27 Mawrth 2025

Image of a multi ethnic group of teenagers in a park
Heddiw, mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, wedi cyhoeddi adroddiad sy'n tynnu sylw at y gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud gan Wasanaethau Ieuenctid Cyngor Sir Powys.

Ym mis Ionawr, arolygodd Estyn y Gwasanaeth Ieuenctid, a saif o fewn Gwasanaeth Addysg y cyngor. Heddiw (Mawrth 27) cyhoeddodd Estyn eu canfyddiadau sy'n cynnwys dau 'sbotolau' - mae'r rhain yn tynnu sylw at enghreifftiau o arfer gorau.

Mae adroddiad Estyn yn datgelu bod pobl ifanc Powys yn cymryd rhan mewn ystod eang o gyfleoedd addysg anffurfiol i ennill hyder, gwytnwch a sgiliau cymdeithasol. Mae'r adroddiad hefyd yn canmol gweithwyr ieuenctid am eu hangerdd a'u hymroddiad wrth gefnogi pobl ifanc, gan ffurfio perthnasoedd cryf trwy weithgareddau amrywiol.

Nododd yr arolygwyr fod gweithwyr ieuenctid yn dilyn dull person-ganolog sy'n sicrhau cymorth wedi'i deilwra yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o anghenion pobl ifanc. O fewn yr adroddiad, derbyniodd y tîm gwaith ieuenctid datgysylltiedig, gydnabyddiaeth arbennig am eu cefnogaeth ragorol gyda phobl ifanc fregus 16 i 25 sy'n byw mewn cymunedau ynysig.

Mynegodd yr holl bobl ifanc a gyfwelwyd yn ystod yr arolwg eu bod yn teimlo'n ddiogel o fewn y gwasanaeth. Roedd y rhai a gyfeiriwyd at asiantaethau eraill yn ymddiried yn eu gweithwyr ieuenctid ac yn teimlo'n rhan o'r broses gwneud penderfyniadau.

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Rydym yn hynod falch o'n Gwasanaeth Ieuenctid a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei gael ar ein pobl ifanc.

"Mae ymroddiad ac ymrwymiad ein gweithwyr ieuenctid yn amlwg yn y perthnasoedd cryf maen nhw'n eu hadeiladu a'r gefnogaeth maen nhw'n ei ddarparu.

"Mae adroddiad yr arolwg hwn yn tynnu sylw at rôl amhrisiadwy y gwasanaeth ieuenctid wrth helpu pobl ifanc i lywio heriau a chyflawni eu potensial. Byddwn yn parhau i gefnogi ein gwasanaeth ieuenctid i sicrhau eu bod yn gallu parhau i wneud gwahaniaeth ym mywydau ein pobl ifanc."

Mae'r adroddiad i'w weld yn www.estyn.llyw.cymru

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu