Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Disgyblion ysgol yn derbyn pecynnau fêps ffug i fynd i'r afael â risg iechyd brys

Vaping

28 Mawrth 2025

Vaping
Mae bwrdd iechyd yng Nghymru wedi cymryd camau brys i atal y nifer cynyddol o bobl ifanc sy'n fepio.

Rhoddwyd pecynnau fêp ffug i ddisgyblion ysgolion uwchradd ym Mhowys i dynnu eu sylw at yr arferion marchnata niweidiol sy'n cyfrannu at gynnydd mewn fepio ymysg pobl ifanc.

Derbyniodd disgyblion Blwyddyn 8 a 9 mewn dwy ysgol becynnau bychan sy'n ymddangos o bell fel eu bod yn cynnwys cynhyrchion fepio; gan ddynwared y lliwiau llachar, y dyluniadau slic a chyfeiriadau at ffrwythau ffres neu felysion sy'n cael eu defnyddio yn eu marchnata yn aml.

Ond o edrych yn agosach, mae'r delweddau o ffrwythau wedi llwydo a pydru, gyda'r pecynnau wedi'u gorchuddio â rhybuddion iechyd sy'n rhybuddio rhag eu defnyddio. Mae côd QR yn arwain disgyblion at gyngor pellach.

Cymerodd pobl ifanc mewn dwy ysgol uwchradd yn ardal Cyngor Sir Powys ran yn y gweithgaredd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu fêp i unrhyw un o dan 18 oed ers 2015, mae cyfran y bobl ifanc sy'n fepio yng Nghymru wedi cynyddu'n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant yn tynnu sylw at y pryderon.

Cynyddodd cyfran y plant ym mlynyddoedd 7 i 11 yng Nghymru sy'n dweud eu bod yn fepio o leiaf unwaith yr wythnos i 7% yn 2023, cynnydd o 5.4% yn 2021 a 2.7% yn 2019, a hynny yn ôl ffigurau gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion. Mae'r data'n dangos bod 19.6% o bobl ifanc (11 i 16 oed) wedi rhoi cynnig ar fepio ym Mhowys, ychydig yn is na chyfartaledd Cymru o 20.4%.

Dywedodd un disgybl blwyddyn 9 a gymerodd ran yn y gweithgaredd: "Mae'n fwy normal i'n oed ni yn enwedig nawr. Chi'n mynd allan ac yn gweld grwpiau o ferched a bechgyn yn fepio.

"Maen nhw'n lliwgar iawn ac yn hysbysebu'r blasau, felly mae wedi'i dargedu at ein grŵp oedran ni."

Yn 2024, dywedodd adroddiad ar ddigwyddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fepio ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru fod tystiolaeth yn awgrymu y gallai dyfeisiau untro fod yn fwy apelgar i blant a phobl ifanc gan eu bod fel arfer yn costio llai, yn haws eu defnyddio, yn cael eu gweld fel rhai haws eu defnyddio gan eu bod yn tynnu llai o sylw yn yr ysgol, ac yn cael eu marchnata mewn ffyrdd sy'n apelio at bobl iau yn aml. Er enghraifft, trwy ddefnyddio lliwiau mwy disglair a disgrifiadau yn ymwneud â blas a allai apelio at bobl iau.

Dywedodd Carron Gould, Arweinydd Cyswllt yn Ysgol Uwchradd Crucywel: "Mae'n hanfodol ein bod yn amlygu peryglon fepio ymysg pobl ifanc. Mae eu hiechyd a'u dyfodol mewn perygl oherwydd cynnydd mewn defnydd o'r cynhyrchion hyn a diffyg dealltwriaeth o'r sylweddau niweidiol sydd ynddynt.

"Gall codi ymwybyddiaeth helpu i rymuso pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus i amddiffyn eu hunain rhag effeithiau negyddol nicotin a sylweddau gwenwynig eraill."

Trefnodd Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys y wers ymgysylltu ac Addysg Gorfforol a Chymdeithasol gyda disgyblion yn Ysgol Calon Cymru ac Ysgol Uwchradd Crucywel fel rhan o'i ymgyrch Yn Llawn o Flas.

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o niwed fepio, tra'n galw am fwy o weithredu i atal y nifer cynyddol o bobl ifanc sy'n dechrau eu defnyddio.

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae fepio yn medru achosi niwed ac rydym yn atgoffa pobl ifanc, os nad ydych yn ysmygu, peidiwch â dechrau fepio.

"Mae'r rhan fwyaf o fêps yn cynnwys nicotin sy'n gaethiwus. Gall defnydd rheolaidd wneud rhywun yn ddibynnol ar nicotin, gan effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio a dysgu. Yn y tymor byr, gall pobl ifanc ddioddef o gur pen, dolur gwddf, pendro a pheswch o ganlyniad i ddefnyddio fêps, ac er bod fepio wedi bod o gwmpas ers dros 15 mlynedd, nid oes digon o dystiolaeth gennym ni i wybod beth yw'r effeithiau hirdymor posib.

"Mae effaith y ddibyniaeth hon yn amlwg i ysgolion ledled Powys, Cymru a'r DU. Mae ysgolion yn adrodd am ddefnydd cynyddol o fêps ymysg disgyblion gydag ymddygiadau problematig o ganlyniad i hyn. Mae ysgolion wedi adrodd bod y defnydd o fêps wedi dod yn broblem gynyddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan arwain at orfod monitro ardaloedd penodol o'u safleoedd am fepio, er enghraifft y toiledau.

"Mae'r gwaharddiad ar werthu fêps untro sy'n dod i rym ym mis Mehefin 2025 yn gam i'r cyfeiriad cywir. Ond mae angen deddfwriaeth bellach er mwyn cyfyngu ar allu'r diwydiant fepio i farchnata'r cynhyrchion hyn i blant."

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Ddiogelach: "Mae'r cynnydd mewn fepio ymysg pobl ifanc yn bryder. Mae'n dod yn fwy amlwg ar ein strydoedd a dwi'n poeni am ei effaith ar blant hyd yn oed yn iau, a allai ei weld fel trend sydd angen iddynt ei ddilyn.

"Rhaid i ni weithredu nawr i atal hyn rhag gwaethygu ac i amddiffyn iechyd ein pobl ifanc, a dyna pam mae'r ymgyrch Yn Llawn o Flas mor bwysig. Mae angen i ni gyd weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r mater hwn a chynnal sgyrsiau agored gyda'n pobl ifanc am risg fepio."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu