Cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu a gwella tai cyngor wedi eu cymeradwyo

28 Mawrth 2025

Cafodd fersiwn ddiweddaraf y cyngor "Yn y Cartref ym Mhowys - Cynllun Busnes Tai" ei gymeradwyo gan y Cabinet ddydd Mawrth, 25 Mawrth.
Bydd y cynllun uchelgeisiol yn gweld y cyngor yn adeiladu mwy na 430 o dai cyngor newydd erbyn 2029-30 fel rhan o becyn buddsoddi gwerth dros £151m.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys buddsoddiad gwerth mwy na £43m dros y pum mlynedd nesaf yng nghartrefi presennol y cyngor i sicrhau eu bod yn parhau i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, sy'n ei gwneud yn ofynnol i dai sy'n eiddo i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol fod mewn cyflwr da.
Mae rhaglenni gwaith eraill fel rhan o'r Cynllun Busnes Tai yn cynnwys:
- Cydymffurfiaeth Cant - Mwy na £10.5m i sicrhau bod holl gartrefi cyngor ac asedau cysylltiedig yn cydymffurfio 100% â'r holl ddeddfwriaethau a rheoliadau perthnasol a chymwys;
- Powys Werdd - Mwy na £10m i gynyddu effeithlonrwydd tanwydd mewn cartrefi cyngor, lleihau tlodi tanwydd, helpu i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyllid i annog a chefnogi dyfodol gwyrddach i ystadau tai cyngor;
- Ffit am Oes - Mwy na £4.1m i wneud cartrefi cyngor yn fwy addas ar gyfer anghenion pobl hŷn a'r rheini ag anghenion sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n amharu neu'n effeithio'n negyddol ar eu symudedd; a
- Caru Ble Rydych Chi'n Byw - Mwy na £6.9m i wella lles cymunedau drwy welliannau i gartrefi ac ystadau cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn cael y cyngor i adeiladu cartrefi cyngor o ansawdd uchel i'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.
"Mae'r Cynllun Busnes Tai - Cartrefi ym Mhowys yn rhoi'r arian sydd ei angen i wneud ein cartrefi'n fwy ynni-effeithlon i'n tenantiaid yn ei le - mynd i'r afael â thlodi tanwydd a sicrhau bod cartrefi cyngor yn gwneud eu rhan i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
"Mae'r cynllun hefyd yn addo buddsoddiad parhaus yn ein cartrefi cyngor presennol i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
"Bydd y cynllun hwn yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys."