Busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael eu hannog i wneud cais am ryddhad ardrethi

28 Mawrth 2025

Mae'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Powys, yn cynnig disgownt o 40% oddi ar filiau ardrethi i fusnesau cymwys.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid o £3.449m i'r cyngor ar gyfer y cynllun ac efallai y bydd hyd at 980 o fusnesau ym Mhowys yn gymwys am y gostyngiad.
Bydd y cynllun yn berthnasol i bob talwr ardrethi cymwys gyda chap rhyddhad ar gyfer pob eiddo busnes hyd at uchafswm o £110,000.
Rhaid i'r busnes fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.
Mae'r cynllun rhyddhad ardrethi ar gael tan 31 Mawrth 2026. Rhaid i fusnesau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd wneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn.
Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer y cynllun hwn unwaith eto.
"Mae'n parhau i fod yn gyfnod gwirioneddol anodd i'r busnesau hynny yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'r amseroedd economaidd heriol parhaus y maent yn eu hwynebu.
"Mae'r cynllun hwn yn cefnogi busnesau yn y sectorau hyn felly byddwn yn annog y busnesau hynny sy'n gymwys am y disgownt hwn i wneud cais amdano cyn gynted â phosibl."
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun, gan gynnwys y ffurflen gais a sut i wneud cais, ewch i Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025/2026.