Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Ysgol Maesydderwen

Image of Ysgol Maesydderwen

31 Mawrth 2025

Image of Ysgol Maesydderwen
Mae tîm o uwch swyddogion addysg eisoes yn gweithio gydag ysgol uwchradd ym Mhowys yn dilyn arolwg siomedig gan Estyn, mae'r cyngor sir wedi cadarnhau.

Bydd Cyngor Sir Powys yn cefnogi Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais ar ôl i arolygwyr Estyn fod o'r farn bod angen gosod mesurau arbennig ar yr ysgol.

Cafodd yr ysgol ei harolygu gan arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru ym mis Ionawr.

Bydd yr adroddiad a'r argymhellion, sydd wedi cael eu derbyn gan yr ysgol a'r cyngor, yn sail i gynllun gweithredu manwl ar y cyd i fynd i'r afael â meysydd allweddol sydd angen eu gwella.

Bydd swyddogion y cyngor, yr ysgol a'i chorff llywodraethu yn gweithio gyda'i gilydd i nodi rhesymau dros ganlyniad yr arolwg ac i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen. Bydd staff, disgyblion a rhieni yn cael eu cefnogi'n llawn yn ystod y daith tuag at welliant.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Heddiw rwy'n rhannu'r siom y mae pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol yn ei brofi.

"Mae'r adroddiad arolygu hwn gan Estyn yn rhoi arweiniad clir ar yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol.

"Byddwn yn gweithio'n agos gydag uwch arweinwyr yr ysgol i weithredu hyn wrth i ni ddechrau'r daith hon tuag at welliant, gan ganolbwyntio ar yr argymhellion a gyflwynwyd gan Estyn wrth i ni adeiladu ar gryfderau'r ysgol a mynd i'r afael â'r meysydd gwella."

Dywedodd Hugh Pattrick, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Maesydderwen: "Fel Llywodraethwyr rydym yn amlwg yn siomedig iawn bod mesurau arbennig wedi cael eu gosod ar Ysgol Maesydderwen.

"Er bod Estyn yn cydnabod agweddau cadarnhaol ar waith yr ysgol yn ystod eu harolygiad, rydym yn gwerthfawrogi bod gwaith i'w wneud i wella safonau yn yr ysgol.

"Hoffem roi sicrwydd i rieni ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i wella safonau a sicrhau bod disgyblion yn cael yr addysg orau bosibl tra yn Ysgol Maesydderwen."

I weld adroddiad yr arolwg, ewch i www.estyn.llyw.cymru

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu