Dewch i gwrdd â'r 71 cwmni a dderbyniodd help i dyfu gyda grantiau gwerth ychydig llai na £1m

31 Mawrth 2025

Rhoddwyd yr arian tuag at brosiectau a gostiodd gyfanswm o dros £10 miliwn, gyda'r busnesau eu hunain yn buddsoddi £9.4 miliwn.
Mae'r 71 cwmni yn ymwneud â phopeth o ddodrefn dylunydd i roboteg ffatri ac wedi derbyn rhwng £940 a £25,000 yr un ar ôl i'r cyngor sicrhau £1.2 miliwn ar gyfer y cynllun, o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Cefnogodd y buddsoddiadau brosiectau a oedd â'r nod o greu mwy na 200 o swyddi newydd i gyd (llawn amser a rhan-amser) a diogelu llawer mwy.
Y rhai a lwyddodd yn rownd dau i wyth o raglen Grant Twf Busnes Cyngor Sir Powys oedd:
Llety a bwyd:
- Gwesty Beacons yn Aberhonddu - derbyniodd y gwesty hwn £25,000 tuag at gost bwyty, bar ac ystafell ddigwyddiadau newydd, gyda gofod awyr agored.
- Gwersyll Ca - derbyniodd y gwersyll hwn £7,500 tuag at gost adeiladu toiledau, cawodydd a chegin newydd ar y safle yn Ffrwdgrech.
- Tafarn y Castle, yn Llangors - derbyniodd y dafarn hon £2,000 tuag at gost creu man bwyta awyr agored newydd, gyda gasebo.
- Collard Trading - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost cegin ac offer carferi a dodrefn bwyta ar gyfer Gwesty'r Lion Royal yn Rhaeadr Gwy.
- Bythynnod Gwyliau Cwm Chwefru yn Llanafan Fawr - derbyniodd y cwmni £4,990 tuag at gost datblygu'r wefan er mwyn caniatáu archebion uniongyrchol.
- Nwyddau Charcuterie Cwmfarm - derbyniodd y cwmni hwn £4,990 tuag at gost offer ar gyfer cynhyrchu a phecynnu biltong - math o gig wedi'i halltu - yn ei ganolfan yn Ystradgynlais.
- Parc Carafanau Daisy Bank - derbyniodd y parc hwn £15,000 tuag at gostau adeiladu uned glampio dull encil ar y safle ger Yr Ystog.
- Discover Parks - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost gosod telesgop a chromen i syllu ar y sêr a nodwedd gardd newydd o'i gwmpas, gyda rhaeadr, ffynnon a gwaith celf, ym Mharc Gwyliau Rockbridge ychydig y tu allan i Lanandras.
- Parc Gwledig a Hamdden Meadow Springs - derbyniodd y parc hwn £20,000 tuag at gost padlfyrddau, caiacau, llochesi newid, glanfa a gatiau diogelwch a ffensys ar gyfer llyn chwaraeon dŵr newydd a grëwyd ar y safle yn Nhrefeglwys.
- Plas Dolguog - derbyniodd y plas £9,730 tuag at gost creu gardd synhwyraidd ar safle llety a digwyddiadau ymwelwyr ger Machynlleth.
- Gwesty'r Severn Arms ym Mhenybont - derbyniodd y gwesty hwn £25,000 tuag at y gost o greu bar ac ardal fwyta awyr agored wedi'i orchuddio a gwneud gwelliannau i'r toiledau.
- The Cross Keys Llanfyllin - derbyniodd y Cross Keys £17,400 tuag at gost creu gardd amlsynhwyraidd yng nghefn y ganolfan gymunedol gan ddarparu prydau, storio a rhannu bwyd, a lleoliad ar gyfer gweithgareddau a hyfforddiant.
- The Granary - derbyniodd y tŷ bwyta hwn £4,550 tuag at gost adlen newydd ar gyfer blaen y caffi a'r bwyty yn Y Gelli Gandryll.
- The Walsh - derbyniodd y cwmni hwn £3,000 tuag at gost adeiladu popty pizza awyr agored, hyfforddiant, beic hufen iâ a llestri awyr agored ar gyfer y busnes bwyd a lles yn Llanddewi.
Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota:
- Llandre Sawn Wood - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost adeilad newydd ym melin lifio Hundred House.
- Mid Wales Incineration - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost codi offer ar gyfer y ganolfan casglu gwastraff fferm a sgerbydau anifeiliaid ger Nantmel.
- Cwmni Wyau No6, yn Abaty Cwm Hir - derbyniodd y cwmni wyau hwn £4,370 tuag at gost meddalwedd rheoli ffermydd i helpu gyda chynhyrchu wyau maes organig.
- RJ Rees - derbyniodd R J Rees £12,500 tuag at gost caban coed i ymwelwyr, fel rhan o brosiect arallgyfeirio fferm yn Ffrwdgrech.
Celfyddydau, adloniant a hamdden:
- Beyond Breakout, yn Y Drenewydd - derbyniodd y cwmni hwn £10,000 tuag at y gost o droi ei fusnes ystafell ddianc yn un symudol, gan gynnwys ailddatblygu'r wefan.
- Cantref Adventure Farm - derbyniodd y fferm antur hon £21,750 tuag at y gost o wella ei thaith cychod i'r teulu, hyfforddiant, llogi fideograffydd a phrynu offer fideo newydd i helpu gyda hyrwyddo'r atyniad a'r llety i ymwelwyr ger Aberhonddu.
- Drover Holidays, derbyniodd y cwmni gweithredwr teithiau cerdded a beicio a chanolfan llogi beiciau yn y Gelli Gandryll - £25,000 tuag at gost ehangu ei fflyd llogi, adlen caffi a pheiriant choffi, map awyr agored ar raddfa fawr, paneli solar, lifrai cerbydau, dillad staff wedi'u brandio, hyfforddiant, ardystiad a datblygu gwefan.
- Jessica Rising Studio - derbyniodd y cwmni hwn £5,460 tuag at gost gwefan newydd, offer cyfrifiadur a chamera newydd, hyfforddiant, deunyddiau marchnata a llogi ffotograffydd i'r darlunydd yn Llanandras.
- Nomadic Washrooms - derbyniodd y cwmni hwn £18,810 tuag at gost trelar cawod newydd a phwmp sugno, ac ar gyfer y ffioedd cyfreithiol a'r meddalwedd sydd eu hangen i sefydlu model masnachfraint newydd ar gyfer y cwmni llogi ystafelloedd ymolchi symudol sydd wedi'i leoli yn Ffordun.
- Snow Broker - derbyniodd y cwmni hwn £1,300 tuag at gost cyfrifiadur, offer telathrebu, meddalwedd, presenoldeb mewn sioe fasnach a theithio, ac ar gyfer deunyddiau marchnata wedi'u brandio, ar gyfer gweithredwr teithiau gwyliau'r gaeaf ym Machynlleth.
Adeiladu:
- Ben Jones Ecology - derbyniodd y cwmni hwn £1,640 tuag at gost offer cofnodi ar gyfer arolygon ystlumod, ar gyfer yr ymgynghoriaeth ecolegol yn y Trallwng.
- Cwmni Adeiladwyr Davies, Roberts a Bowen - derbyniodd y cwmni hwn £21,870 tuag at gost ardystio, hyfforddiant a chloddiwr newydd, ar gyfer y cwmni sydd wedi'i leoli ger Trefaldwyn.
- Ithon Valley Groundworks sydd wedi'i leoli yn Llanbister - derbyniodd y cwmni hwn £7,720 tuag at gost lori, jackhammer ac offer adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd eraill.
- Vyrnwy Construction - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost cloddiwr newydd i'r cwmni adeiladu sydd wedi'i leoli ger Meifod.
Cyllid ac yswiriant:
- ASW Accountancy - derbyniodd y cwmni cyfrifwyr hwn £940 tuag at gyfrifiaduron ac offer telathrebu ar gyfer cangen newydd o'r cwmni ym Meifod.
Iechyd a Gwaith Cymdeithasol:
- Gwasanaethau Meddygol Canolbarth Cymru, darparwr hyfforddiant a sicrwydd chyflenwi cymorth cyntaf yn Rhaeadr Gwy - derbyniodd y gwasanaeth £15,000 tuag at gost diffibrilwyr, peiriant anadlu a dau ambiwlans.
Gweithgynhyrchu:
- Advantage Automotive - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost peiriant mowldio ar gyfer dylunio a chynhyrchu systemau sychu a golchi sgrin wedi'u lleoli yn Llanandras.
- Bulk Automation, derbyniodd y cwmni hwn sy'n dylunio ac adeiladu nwyddau pecynnu - £25,000 tuag at gost offer codi a chario i'w ddefnyddio yn ei safle newydd yn Llanidloes.
- CastAlum, gwneuthurwr rhannau alwminiwm wedi'i leoli yn y Trallwng- derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at y gost o ddiweddaru dau o'i beiriannau deigastio, fel rhan o raglen adnewyddu ehangach.
- CellPath - derbyniodd y cwmni hwn£11,800 tuag at gost tanc gwres ychwanegol i gynhyrchu cemegau a ddefnyddir i ganfod canser mewn samplau meinwe, ar gyfer y cyflenwr offer labordy yn y Drenewydd.
- Compact Orbital Gears - derbyniodd y cwmni hwn £10,870 tuag at gost gliniaduron a meddalwedd newydd i helpu gydag asesiadau o ansawdd a gwella prosesau ar gyfer y gwneuthurwr sydd wedi'i leoli yn Rhaeadr Gwy.
- Davlec - derbyniodd Davlec£25,000 tuag at gost argraffydd arbennig ar gyfer y gwneuthurwr rheolyddion electronig yn Y Trallwng.
- Dylan Glyn, cafodd y dylunydd a gwneuthurwr dodrefn o Gaersws - £3,090 tuag at gost peiriannau gwaith coed, datblygu'r wefan a llogi ffotograffydd.
- Heartwood Saunas - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost gosod gweithdy a swyddfa newydd yng Nglantwymyn, gan gynnwys ychwanegu llawr mesanîn, a wagen fforch godi.
- Interior Products Group - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost argraffydd digidol ar raddfa fawr i'w ddefnyddio yn ei ffatri gorchuddion wal Newmor yn y Trallwng.
- Makefast, dylunydd a gwneuthurwr cynhyrchion morol a diogelwch yn Y Drenewydd - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost peiriant ffurfio gwifren a fyddai'n lleihau ei gostau cynhyrchu.
- Marches Precast - derbyniodd y cwmni hwn £15,750 tuag at gost cynwysyddion, grisiau a mowldiau, i helpu i gynyddu allbwn yn y gwneuthurwr lloriau a blociau concrit sydd wedi'i leoli ger Llanandras.
- Marrill Powys - derbyniodd y cwmni hwn£15,130 tuag at gost gosod gyriannau gwrthdröydd i bympiau yn ei adran baent, i leihau'r defnydd o ynni, yn y ffatri gwasgu metel yn Llanfyllin.
- Polyco (W Howard), gwneuthurwr mowldiau a thrimio MDF yn Y Drenewydd - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost sychwr ar gyfer trosi gwastraff MDF yn insiwleiddiad llenwi rhydd.
- Maesyfed Preserves - derbyniodd y cwmni hwn £31,090 (dau grant) tuag at gost offer gwneud jamiau, gwregys cludo, argraffydd a silffoedd ar gyfer y gwneuthurwr a leolir yn y Drenewydd.
- Stashed Products, dylunydd a gwneuthurwr cynhyrchion storio beiciau sy'n arbed gofod, sydd wedi'i leoli yn Aber-miwl - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost gosod lloriau mesanîn, gweithfannau, ac ystafell farchnata a manwerthu, ac ar gyfer pentyrru a dewis offer a hyfforddiant.
Proffesiynol, gwyddonol a thechnegol:
- Agri Advisor Legal, yn Y Trallwng - derbyniodd y cwmni hwn £3,710 tuag at gost offer telegynadledda a gliniaduron sgrin gyffwrdd, ac ar gyfer dolenni clyw a chwyddwydrau.
- Cleobury Project Management, a leolir ger Cnwclas - derbyniodd y cwmni hwn £4,670 tuag at gost system sychu i'r cwmni sy'n treialu tyfu a phrosesu planhigion gwerthfawr.
- Crabb and Company, cwmni ecoleg a rheoli tir ymMachynlleth - derbyniodd y cwmni hwn £4,000 tuag at gost hyfforddiant.
- KG Ecology - derbyniodd y cwmni hwn £1,200 tuag at gost recordio offer ar gyfer arolygon ystlumod, ar gyfer yr ymgynghoriaeth ecolegol sydd wedi'i lleoli yn Y Clas-ar-Wy.
- Reeco Automation, dylunydd a gwneuthurwr systemau ffatri robotig yn Y Drenewydd - derbyniodd y cwmni hwn £23,390 tuag at gost gwefan, cymorth marchnata a deunyddiau marchnata newydd.
Gwasanaethau:
- Bradleys Garage - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at y gost o symud ei garej MOT i leoliad newydd yn Llanidloes.
- Call of the Wild - derbyniodd y cwmni hwn £5,000 tuag at gost ymgyrch farchnata i godi proffil ei ganolfan hyfforddi a'i chynhadledd ger Abercraf.
- Eureka Physiocare - derbyniodd y cwmni hwn£15,000 tuag at gost cronfa ddata rhyngweithio a gwerthu newydd i gwsmeriaid ar gyfer y cyflenwr cyfarpar ffisiotherapi a chymhorthion adfer yn y Drenewydd.
- LA Ink Printing Studio - derbyniodd y cwmni hwn £3,500 tuag at gost gliniaduron, meddalwedd, storio ar 'gwmwl', hyfforddiant a gwelliannau i'r wefan i'r cwmni sydd wedi'i leoli ger Cefn Coch.
- Velocity Fitness - derbyniodd y cwmni hwn £10,000 tuag at gost offer a phwysau i'r gampfa yn Aberhonddu.
- WPG (Grŵp Argraffu'r Trallwng) - derbyniodd y cwmni hwn£25,000 tuag at gost peiriannau plygu a brodwaith digidol.
- Zing! Cwmni asiantaeth marchnata brand a chynnwys a leolir yn Y Drenewydd - derbyniodd y cwmni hwn £4,760 tuag at gost gwefan ac offer fideo newydd.
Cyfanwerthu a manwerthu:
- Bee Welsh Honey - derbyniodd y cwmni hwn £10,000 tuag at gost adeiladu ystafell echdynnu mêl fwy a lle storio ychwanegol i'r cwmni o Lanfair-ym-Muallt.
- Cofion Cynnes - derbyniodd y cwmni hwn £1,470 tuag at gost gwell man arddangos ar gyfer cardiau cyfarch ar gyfer y siop anrhegion, llyfrau a gemwaith Cymraeg yn Ystradgynlais.
- Cosmic Collectables - derbyniodd y cwmni hwn £1,870 tuag at gost ailaddurno a dodrefnu ystafell storio i greu ardal ar gyfer chwarae gemau fel Dungeons a Dragons a Warhammer ar gyfer y siop yn Y Trallwng.
- Dress To Impress - derbyniodd y siop hon £23,940 tuag at gost gwefan newydd, llogi lleoliad siop dros dro a ffitiadau, ac ymgyrch farchnata i hyrwyddo'rsiop ffrogiau yn Aberhonddu.
- E George a'i Fab - derbyniodd y cwmni hwn £25,000 tuag at gost prynu cerbydau llwytho a danfon newydd, offer bagio a symud offer swmpus ar gyfer y porthiant anifeiliaid a'r siop fferm ger Caersws.
- Fleet Vans Direct, yngNghwm-twrch Isaf - derbyniodd y cwmni hwn £9,990 tuag at gost peiriannau gwaith coed ar gyfer adeiladu leininau faniau.
- Fuze, manwerthwr ar-lein yn Y Drenewydd - £5,510 tuag at gost datblygu a hyfforddi gwefannau, cyfrifiaduron, meddalwedd ac argraffwyr, i'w defnyddio wrth ddylunio, cynhyrchu a gwerthu anrhegion ar thema Cymru.
- KDM Lleol - derbyniodd y cwmni hwn £2,310 tuag at gost byrddau, seddi, monitorau, unedau storio ac arddangos, a chownter siop ar gyfer ei siop hapchwarae yn Llandrindod.
- Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd a'r Cylch - derbyniodd y ganolfan £1,580 tuag at y gost o hyrwyddo ail-lansio ei Marchnad Gymunedol.
- Markertech, cyflenwr cydrannau trydanol, wedi'i leoli yn Llangatwg - derbyniodd y cwmni hwn £15,780 tuag at gost gosod warws a meddalwedd marchnata newydd, ar ôl ehangu ei ystod o gynhyrchion.
- Canolfan Arddio Old Railway Line, ynThree Cocks - derbyniodd y ganolfan hon £25,000 tuag at gost canopi a mynedfa planhigion newydd, fel rhan o brosiect adnewyddu sylweddol.
- Rodell a Jones - derbyniodd y cwmni hwn £10,000 tuag at gost prynu sgaffaldiau, camerâu diogelwch, cynhwysydd storio, cyfrifiaduron, ysgubo simnai ac offer gwerthu am ei fusnes gwerthu stofiau a gosod stofiau pren wedi'i leoli yn Three Cocks.
- Old Temp Fish Bar, yn Ystradgynlais - derbyniodd y siop bysgod a sglodion hon £6,330 tuag at gost offer ffrio newydd.
- Trailhead Fine Foods (Get Jerky), ynY Trallwng - derbyniodd y cwmni hwn £6,720 tuag at gost graddfeydd a meddalwedd, oerydd chwyth a boeler i halltu cig eidion.
Maent yn dilyn 13 cwmni arall, a lwyddodd i sicrhau gwerth £143,000 o grantiau yn rownd un, yn 2023.
"Mae'n wych ein bod wedi gallu cefnogi 84 o fusnesau drwy'r cynllun hwn, sydd wedi eu lledaenu ledled y sir, gan greu a diogelu cannoedd o swyddi," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus. "Mae hybu'r economi a sbarduno twf yn hanfodol i les ein preswylwyr ac i'r busnesau niferus ac amrywiol, o bob maint, sydd wedi'u lleoli yma.
"Rydym am helpu cwmnïau ar bob cam o'r datblygiad i gynnal, tyfu ac arloesi, fel rhan o'n hymrwymiad i greu Powys gryfach, decach a gwyrddach."
Os oes gennych gwestiwn am ddatblygiad economaidd ym Mhowys e-bostiwch: economicdevelopment@powys.gov.uk neu ewch i wefan y cyngor i weld pa gymorth sydd ar gael i fusnesau nawr: Busnesau
Gellir cael help hefyd drwy Busnes Cymru: https://busnescymru.llyw.cymru/
Roedd Grantiau Twf Busnes Powys ar gael i helpu i ariannu cynlluniau cyfalaf a phrosiectau refeniw untro, ac fe'u gweinyddwyd gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor.
LLUN: Garej MOT newydd Bradleys Garage ar Stad Ddiwydiannol Parc Hafren yn Llanidloes. Llun: Bradleys