Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Adroddiad Gwasanaeth Ysgolion Estyn: Arweinydd yn galw Cyfarfod Eithriadol o'r Cyngor

Image of County Hall

31 Mawrth 2025

Image of County Hall
Mae'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, wedi galw am Gyfarfod Eithriadol o'r Cyngor yn sgil cyhoeddi adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg y cyngor yn ddiweddar.

Mae Cyfansoddiad y cyngor yn rhoi'r pŵer hwnnw i'r Arweinydd.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt: "O ystyried yr argymhellion a'r naratif clir yn yr adroddiad a'r angen am gamau gweithredu cryf a chydgysylltiedig i fynd i'r afael â'r pryderon hynny, sy'n ymwneud â gwaith llawer o ddeiliaid portffolio, roeddwn yn meddwl ei bod yn hanfodol bod Aelodau'r Cyngor a'r cyhoedd yn clywed yn uniongyrchol am y camau y bydd Deiliaid Portffolio'r Cabinet a Thîm Arwain Corfforaethol y cyngor yn eu cymryd i adeiladu ar y cynnydd diweddar a nodwyd, ac i fynd i'r afael â'r meysydd hynny lle mae angen cynnydd.

"Bydd cyfarfod llawn o'r Cyngor yn caniatáu i aelodau ddeall a thrafod y materion hyn yn drylwyr mewn ffordd agored a thryloyw. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal cyn gynted â phosibl ar ddyddiad sydd eto i'w gadarnhau."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu