Gwaith yn parhau ar Gynllun Datblygu Lleol newydd y cyngor

31 Mawrth 2025

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl), a fydd yn cwmpasu Powys i gyd ac eithrio'r ardal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (PCBB), yn nodi cynigion a pholisïau'r cyngor ar gyfer defnyddio tir i'w ddatblygu yn ei ardal yn y dyfodol.
Bydd yn cwmpasu cyfnod o 15 mlynedd hyd at 2037 a bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar ôl ei fabwysiadu.
Mae'r cyngor wedi bod yn asesu ymatebion gan drigolion, busnesau, datblygwyr a rhanddeiliaid eraill yn dilyn yr ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd a, lle bo angen, adolygu'r elfen gychwynnol hon o'r cynllun sy'n sefydlu'r fframwaith strategol cyffredinol. Bydd unrhyw ddiwygiadau o'r strategaeth yn cael eu hymgorffori yn y Cynllun Adnau.
Mae'r cyngor hefyd yn parhau i asesu'r Safleoedd Ymgeisiol sydd wedi'u cyflwyno gan gynigwyr safleoedd i'w hystyried fel dyraniadau tai a safleoedd cyflogaeth. Bydd y safleoedd hyn yn cael eu hasesu a'u hidlo yn erbyn y Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol a gyhoeddwyd a'r cam nesaf fydd cynnal arfarniad cynaliadwyedd ar y safleoedd hynny sydd wedi pasio'r broses hidlo.
Mae'r cyngor nawr yn gweithio ar y cam nesaf i ddatblygu'r Strategaeth a Ffefrir yn y Cynllun Adnau cynhwysfawr, a fydd yn cynnwys y polisïau manwl i lywio sut y bydd datblygiadau'n cael eu rheoli ledled Powys. Bydd y Cynllun Adnau hefyd yn cynnwys y safleoedd a nodwyd fel y rhai mwyaf addas a chyflawnadwy i ddiwallu anghenion tai a busnes ardal CDLl Powys hyd at 2037.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn ddogfen allweddol a fydd yn llywio graddfa a lleoliad datblygiadau yn y sir yn y dyfodol.
"Ar ôl ymgynghoriad llwyddiannus a defnyddiol o'r Strategaeth a Ffefrir, gallwn symud ymlaen gyda'r hyder bod strategaeth y cynllun yn briodol i Bowys a byddwn yn gallu darparu digon o stoc dai, yn cefnogi ein heconomi ac yn mynd i'r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd."
Bydd gwaith ar y Cynllun Adnau yn parhau yn ystod gwanwyn a haf 2025, gyda'r bwriad o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd yr hydref pan fydd trigolion a rhanddeiliaid yn cael cyfle pellach i wneud sylwadau.
I gael gwybod am y datblygiadau parhaus yn y broses o baratoi'r CDLl Newydd, gallwch gofrestru eich diddordeb yn https://ldp.powys.gov.uk/cy/register/