Gwarcheidiaeth Arbennig
Beth yw Gwarcheidiaeth Arbennig?
Gorchymyn cyfreithiol yw Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig (GGA) y gwneir cais amdano gan ofalwyr maeth, aelodau o'r teulu neu ofalwyr cysylltiedig ac a roddir gan y llysoedd.
Os na all plentyn fyw gyda'i rieni mwyach ac nad oes gobaith realistig y bydd yn dychwelyd at ei rieni, mae angen dod o hyd i deulu parhaol arall ar gyfer y plentyn hwnnw. Mae gorchymyn gwarchodaeth arbennig yn rhoi sicrwydd i blentyn ac yn taro cydbwysedd rhwng eu hangen am gartref diogel, sefydlog a gofalgar drwy gydol eu plentyndod, ac i gynnal cysylltiadau â'u teulu biolegol.
Pwyntiau Allweddol
- Nid yw plentyn GGA yn blentyn sy'n derbyn gofal mwyach ond gellir cael cefnogaeth drwy dîm GGA Powys os fyddai angen hynny ar y gofalwyr
- Cyrsiau hyfforddi a grwpiau cymorth
- Gall gwarcheidwaid arbennig wneud bron pob un o'r penderfyniadau pwysig
- Mae gorchymyn GGA ar waith tan ben-blwydd y plentyn yn 18 oed
- Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed a gallant wneud cais ar eu pen eu hunain neu ar y cyd.
Os hoffech gael gwybodaeth am ddod yn warcheidwad arbennig neu gymorth, cysylltwch â'r tîm gwarcheidiaeth arbennig drwy sgosupportservice@powys.gov.uk