Cynllunio Gofal sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau Seiliedig ar Gryfder - Cyfathrebu Cydweithredol
Cynulleidfa Darged: Timau Gwaith Cymdeithasol Oedolion / Gweithwyr Cartref ac Ailalluogi / Gweithwyr Cymorth Dydd
Darparwyd gan Robin Scott-Wilson
Canlyniadau Dysgu:
- Pŵer y sgwrs
- Yn canolbwyntio ar ddatrys cyfyng-gyngor defnyddwyr gwasanaeth.
- Cydweithio i gyflawni canlyniad cynaliadwy, adeiladu ar gryfderau, gwneud y mwyaf o ymreolaeth ac annibyniaeth.
Mae sgiliau cyfathrebu ein staff yn eu galluogi i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau heriol. Cynlluniwyd y cwrs hwn i adeiladu ar sgiliau a hyder gweithwyr i rymuso eu defnyddwyr gwasanaeth.
Gall gweithwyr greu momentwm ar gyfer newid trwy sgiliau cyfathrebu cydweithredol sy'n cyfleu derbyniad ac empathi tra'n canolbwyntio ar y materion a'r penblethau mwyaf canolog a phwysig.
Gall sgiliau cyfathrebu cydweithredol helpu gweithwyr mewn unrhyw fath o leoliad cynorthwyol neu therapiwtig i helpu pobl i archwilio a gobeithio datrys eu cyfyng-gyngor ynghylch materion hollbwysig y maent yn eu nodi yn eu bywydau.
Dyddiadau ac Amseroedd:
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Ffurflen Datgan Diddorddeb ar gyfer Cyrsiau Hyfforddiant
