Bwrdd newydd wedi'i sefydlu i yrru gwelliannau addysg

4 Ebrill 2025

Sefydlwyd y Bwrdd Gwella Carlam gan y Prif Weithredwr Emma Palmer, ar ôl ymgynghoriad â'r Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y cyngor.
Mae blaenoriaethau ar gyfer y bwrdd newydd, a fydd yn gyrru ac yn cyflymu gwelliant addysg ym Mhowys dan arweiniad y cyngor, yn cynnwys:
- Cefnogi'r gwaith o ddatblygu arweinyddiaeth gref a phwrpasol a rheoli perfformiad gwella addysg gan gynnwys dull cyngor cyfan o addysg ragorol ym Mhowys
- Darparu adolygiad cadarn a mewnbwn i gyfeiriad gwelliannau addysgol
- Datrys problemau a allai fod yn rhwystr posibl i wella addysgol a sicrhau bod y rhain yn cael eu datrys.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau addysg eithriadol sy'n cefnogi ein hysgolion fel y gallant roi'r sylfaen orau i'n pobl ifanc ar gyfer eu dyfodol.
"Mae sefydlu'r Bwrdd Gwella Carlam yn gam hanfodol i gyflawni hyn. Bydd y bwrdd yn sicrhau ein bod yn bodloni'r argymhellion a amlinellwyd gan Estyn wrth yrru a chyflymu gwelliannau yn ein gwasanaethau addysg.
"Rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni'r gwelliannau angenrheidiol ac yn darparu'r addysg a'r cyfleoedd y mae plant a theuluoedd Powys yn eu haeddu a'u disgwyl."