Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Canolfan heb ei defnyddio ar gyfer twristiaid wedi ei throi'n lleoliad ar gyfer cymorth cymunedol

The repurposed TIC in Builth Wells

28 Ebrill 2025

The repurposed TIC in Builth Wells
Mae hen ganolfan groeso twristiaid yn Llanfair-ym-Muallt wedi cael ail fywyd fel hyb cymunedol, diolch i gyllid a sicrhawyd gan Gyngor Sir Powys.

Dyfarnodd y cyngor £45,860 tuag at y gost o adnewyddu'r safle ar Faes Parcio'r Groe, i'w droi'n ganolfan llesiant i Gymorth Cymunedol Llanfair-ym-Muallt, ac elusennau a grwpiau gwirfoddol eraill, ei ddefnyddio.

Darparwyd y cyllid fel Grant Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru, drwy ei rhaglen Trawsnewid Trefi, ac mae wedi'i ddefnyddio i wneud y canlynol:

  • Creu ardal gegin newydd gyda'r holl gyfarpar angenrheidiol.
  • Adnewyddu'r toiled a chreu cyfleusterau mwy addas ar gyfer ymwelwyr anabl.
  • Gosod paneli solar a gwresogyddion trydan newydd gydag amseryddion a thermostatau.
  • Amnewid gwteri, wynebau a drws.
  • Gosod lloriau a storfa osodedig newydd.
  • System ddiogelwch newydd.
  • Dodrefn newydd.

Mae gan Gymorth Cymunedol Llanfair-ym-Muallt dros 600 o aelodau ac mae'n darparu cludiant cymunedol, siopa a danfoniadau presgripsiwn, clwb cinio a chyfeillio. Mae hefyd yn darparu canolfan ar gyfer cangen lloeren o Fanc Bwyd Llandrindod (a gefnogir hefyd drwy Drawsnewid Trefi) ac mae'n cynnwys y dref a'r cymunedau cyfagos, sef Llanwrtyd, Llangamarch, Garth, Cilmeri, Erwyd, Aberedw a Llanelwedd.

Mae wedi sicrhau defnydd o'r adeilad, sydd bellach yn cael ei alw Gyda'n Gilydd yn y Gymuned ac a oedd wedi bod yn wag ers chwe blynedd, ar brydles 30 mlynedd gan Gyngor Sir Powys.

Agorodd y ganolfan llesiant ym mis Medi ac mae'n cael ei defnyddio'n rheolaidd gan 10 grŵp: Age Cymru Simply Nails, RNID, Cymraeg i Blant De Powys, CFfI Llanfair-ym-Muallt, Cysylltwyr Cymunedol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, Côr Merched Llanfair-ym-Muallt, Grŵp Cefnogi Parkinsons y De, MIND Canolbarth a Gogledd Powys, Clwb Cinio Cymorth Cymunedol a Chymdeithas Treftadaeth Llanfair-ym-Muallt.

Fe'i defnyddir hefyd i gynnal sesiynau Mannau Cynnes ac mae wedi derbyn sgôr hylendid bwyd 5 seren ar ôl ei harolygiad Iechyd yr Amgylchedd.

"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cymryd prydles y Ganolfan Groeso, gan drawsnewid yr adeilad yn ased gwerthfawr i'r gymuned leol," meddai Cathy Warlow, Rheolwr Cymorth Cymunedol Llanfair-ym-Muallt. "Mae'r fenter hon yn gwella'r ystod o wasanaethau sydd ar gael yn yr ardal ac yn cryfhau ein helusen ymhellach."

Cefnogir y rhaglen Trawsnewid Trefi yn y Canolbarth gan dimau Datblygu Economaidd ac Adfywio Cynghorau Sir Powys a Cheredigion.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Ffyniannus: "Rwy'n falch o weld adeilad gwag amlwg ym Mhowys yn cael ei ddefnyddio unwaith eto gyda chymorth y rhaglen Trawsnewid Trefi.

"Mae Cymorth Cymunedol Llanfair-ym-Muallt yn gwneud gwaith rhagorol i helpu rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ehangu'r ystod o wasanaethau y gallant hwy, a'u partneriaid, eu cynnig a'u gwneud yn fwy hygyrch."

Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi bywiogrwydd canol ein trefi, datblygu seilwaith gwyrdd, galluogi creu swyddi, a gwella cyfleusterau cymunedol a mynediad at wasanaethau. Mae dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol yn un o bileri canolog y rhaglen, ac mae Canolbarth Cymru wedi cael £11m ers 2022 i gyflawni prosiectau adfywio canol trefi..

Mae'r Grant Creu Lleoedd wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg, a chaiff ei ddarparu drwy'r awdurdod lleol, i gefnogi ymyriadau ar raddfa lai (grant hyd at £300,000) sy'n helpu i wella canol trefi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: "Mae ein Rhaglen Trawsnewid Trefi yn helpu i ddod ag adeiladau segur yn ôl yn fyw, yn adfywio canol ein trefi ac yn rhoi hwb i economïau lleol.

"Rwyf mor falch o weld y gwaith adnewyddu yng nghanol tref Llanfair-ym-Muallt. Mae ein buddsoddiad yng Nghanolbarth Cymru yn cefnogi cymunedau lleol i lunio adfywiad canol eu trefi, gan greu cyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli a gwella mynediad at wasanaethau."

Gwelwyd tystiolaeth o'r angen am y gwaith adnewyddu drwy gynllun buddsoddi yn y dref.

Mae'r prosiect hefyd wedi'i gefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a Chronfa Gymunedol Leol y Co-op.

Roedd y contractwyr a oedd yn gweithio arno yn cynnwys Gwasanaethau Adeiladu Llanfair-ym-Muallt, J Kelham Electric a Graham Flooring.

LLUN: Y Ganolfan Groeso wedi'i hailbwrpasu yn Llanfair-ym-Muallt. Llun: BWCS

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu