Gwyngalchu arian ar gyfer asiantau tai
Sut orau i amddiffyn rhag gwyngalchu arian.
Mae'n drosedd i fasnachu fel asiant tai oni bai eich bod wedi cofrestru gyda CThEM ar gyfer goruchwylio gwyngalchu arian. Mae CThEM wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer asiantau tai ar y ffordd orau i amddiffyn rhag gwyngalchu arian.
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn goruchwylio busnesau asiantaethau eiddo o dan Reoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgaeth a Throsglwyddo Arian (Gwybodaeth am y Talwr) 2017.
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud yn siŵr bod gan fusnesau sydd mewn perygl o gael eu defnyddio ar gyfer gwyngalchu arian gan droseddwyr a therfysgwyr reolaethau i leihau'r risg o hyn ddigwydd.