Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Cymorth a chyngor

Dod o hyd i help a chyngor i'r teulu

Gall bywyd teuluol fod yn llawn straen ac mae angen help a chyngor ar bob un ohonom weithiau. Mae yna sawl ffordd y gallwn gynnig cymorth i chi a'ch teulu.

Cysylltwch â CYMORTH ar-lein

Gallai Cymorth roi gwybodaeth, cyngor a help sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion i unigolion a gweithwyr proffesiynol.

Cael help gyda cham-drin domestig

Mae gan bawb yr hawl i fyw yn rhydd rhag ofn, bygythiadau, a cham-drin, yn enwedig o fewn eu cartref eu hunain.

DEWIS Cymru

Os ydych yn credu y gallech elwa o ychydig o gymorth ychwanegol, ewch i wefan Dewis Cymru i ddod o hyd i sefydliadau a all helpu.

Help gyda Llety â Chefnogaeth

A allech chi wneud y gwahaniaeth i fywyd rhywun ifanc? A allech chi gynnig carreg camu i bobl ifanc ym Mhowys tuag at annibyniaeth?

Cymorth yn y Cartref

Os ydych chi'n dechrau cael trafferth gyda thasgau bob dydd, efallai bod angen cymorth arnoch chi i aros yn annibynnol yn eich cartref.

Help i ddod o hyd i gartref gofal

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano/amdani yn meddwl am wneud cartref gofal yn lle preswyl parhaol, defnyddiwch y ddolen isod i chwilio am gartref gofal ym Mhowys a darllenwch y cyngor perthnasol.

Mae rhywun y gwyddoch amdano angen help ond nid yw'n sylweddoli bod ei angen arno

Mae'n eithaf cyffredin sylwi bod angen help ar rywun rydym yn eu hadnabod. Yn aml gallwn weld nad yw'n gofalu amdano'i hun yn iawn, neu mae'n achosi niwed iddo'i hun neu i bobl eraill oherwydd nad yw'n gallu rheoli'r hyn a wna.

Gweithredu ar ran rhywun arall

Os yw rhywun yn methu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain, efallai bydd angen iddynt gael rhywun arall i weithredu ar eu rhan.

Cymorth i rai sydd wedi colli eu clyw

Os ydych chi'n fyddar neu bod gennych broblem gyda'ch clyw sy'n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd mae help ar gael.

Cysylltu Bywydau

Mae Cysylltu Bywydau yn wasanaeth lle mae pobl sydd angen rhywfaint o gefnogaeth, yn byw gyda neu'n ymweld â phobl sydd wedi penderfynu rhannu eu cartrefi, eu cymuned a'u bywyd teuluol. Gelwir y rhain yn Ofalwyr Cysylltu Bywydau.

Dod o hyd i ofal plant, meithrinfeydd a chylchoedd chwarae

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig cyngor a gwybodaeth yn rhad ac am ddim ar amrywiaeth eang o ddewisiadau gofal plant a gweithgareddau i blant a phobl ifanc rhwng 0-25 oed, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gall bywyd teuluol fod yn straen ac mae angen help a chyngor arnom ni i gyd ar adegau. Mae llawer o ffyrdd y gallwn eich cefnogi chi a'ch teulu. Os hoffech siarad am ba gymorth y gallai fod ei hangen arnoch, cysylltwch â ni yn uniongyrchol.

Cymorth ag Iechyd Meddwl

Gall salwch meddwl effeithio ar unrhyw un ar unrhyw bryd. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod pan fyddwn yn brwydro gyda'n Hiechyd Meddwl achos mae yna help a chymorth ar gael.

Cymorth gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol

Lleihau'r ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau ar hyd a lled Powys yw ein nod, ac annog pobl i gael cymorth i fyw bywydau iachach a mwy cyflawn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu