Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Cymorth i rai sydd wedi colli eu clyw

Os ydych chi'n fyddar neu bod gennych broblem gyda'ch clyw sy'n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd mae help ar gael. Gall Tîm Synhwyraidd Powys helpu oedolion Powys sydd â cholled clyw i fyw mor annibynnol ag sy'n bosibl.

Sylwch nad yw'r cyfeiriad e-bost powyshi@powys.gov.uk yn weithredol mwyach ac mae PDD bellach yn CYMORTH. Ar gyfer pob ymholiad newydd am gymorth Nam ar y Clyw cysylltwch â CYMORTH ar:- Ebost: assist@powys.gov.uk, Llinell Destun: 07883 307 622, Ffôn: 0345 602 7050.

Mae gwasanaeth tecstio newydd i oedolion sy'n fyddar neu'n colli clyw nawr yn fyw. 
Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. 
Bydd y tîm yn ateb gyda gwybodaeth ar bethau megis asesiadau, technoleg gynorthwyol a'ch cyfeirio chi at grwpiau gwirfoddol a chlinigau.

Tecstiwch CYMORTH (PDF, 621 KB)

Pa fath o help sydd ar gael?

Rydym yn cyflogi gweithwyr arbenigol  ar gyfer pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw a gallwn asesu eich angen am wybodaeth, cefnogaeth, cwnsela ac offer.

Mae cyllideb fach gennym i ddarparu cefnogaeth cyfathrebu fel dehonglwyr iaith arwyddion, cyfleusterau lleferydd i destun a siaradwyr gwefusau i bobl sydd angen mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol.

Offer ar gyfer eich cartref

Gall yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol roddi offer i'ch helpu chi i fod yn annibynnol yn eich cartref.

Er enghraifft:

  • Cloch drws ffrynt sy'n fflachio
  • Mwyhawyr sain teledu personol: galluogi pobl â phroblemau clyw i addasu sain y teledu drwy glustffonau heb amharu ar bobl eraill.
  • Systemau lŵp domestig: gall mwyhawyr sain gael eu defnyddio gyda chymhorthion clywed sydd â derbynnydd lŵp.
  • Ffonau tecst
  • Clociau larwm â golau sy'n fflachio neu ddisg sy'n dirgrynu
  • Larymau gweledol ar gyfer rhieni/gofalwyr byddar

Gofynnwch am asesiad Gwneud atgyfeiriad ar gyfer Gwasanaethau Gofal

Gallwch wylio'r tudalennau hyn mewn 'Iaith Arwyddion Prydain'

Cewch weld y tudalennau canlynol mewn 'Iaith Arwyddion Prydain'

Edrychwch am yr arwydd hwn: 

Sign Language icon

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu