'Dewch at eich gilydd i nodi'r digwyddiadau coffa arwyddocaol hyn'

1 Mai 2025

Mae Diwrnod VE ddydd Iau 8 Mai yn cael ei gofio gyda digwyddiadau'r wythnos nesaf a Diwrnod VJ (dydd Gwener 15 Awst) gyda digwyddiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae digwyddiadau Diwrnod VE ym Mhowys yn cynnwys:
- Cegidfa yn dathlu Diwrnod VE 80, 3 - 10pm ddydd Llun 5 Mai: parti stryd yng nghanol y pentref gyda cherddoriaeth fyw.
- Parti Stryd Talgarth, o 12pm ymlaen ddydd Sadwrn 10 Mai: yn Sgwâr Tref Talgarth. Hefyd, digwyddiadau coffa ddydd Iau 8 Mai, gan gynnwys bore coffi Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA), gwasanaeth eglwys, canu clychau, tanio goleufa a gorymdaith llusernau.
- Diwrnod 80 VE Crug Hywel, 2pm tan yn hwyr ddydd Sul 11 Mai: parti stryd ar Stryd Fawr Crug Hywel gyda'r opsiwn i wisgo dillad steil y 1940au. Hefyd, digwyddiadau coffa yn Neuadd Clarence ddydd Gwener 9 Mai, gan gynnwys te prynhawn a Parti VE gyda cherddoriaeth fyw.
- Diwrnod VE 80 yn Aberhonddu, 2 - 7pm ddydd Sadwrn 10 Mai: picnic yn y safle seindorf ar y Promenâd, gyda Band Tywysog Cymru, chwaraeon cymunedol a cherddoriaeth fyw. Hefyd, digwyddiadau coffa ddydd Iau 8 Mai, gan gynnwys proclomasiwn a chodi baneri, canu cymunedol a thanio goleufa.
- Diwrnod VE 80 yn Llandrindod, am 2pm ddydd Llun 5 Mai: te parti teuluol yng Nghlwb y Lleng Brydeinig Frenhinol. Hefyd, digwyddiadau coffa ddydd Iau 8 Mai a dydd Sul 11 Mai, gan gynnwys cyhoeddiad wrth y gofeb ryfel gyda chorau'r ddwy ysgol gynradd, a gwasanaeth eglwys gyda'r Lleng Brydeinig Frenhinol.
- 80 mlynedd ers Diwrnod VE yn Ystradgynlais, am 10am ddydd Sadwrn 3 Mai: gorymdaith o'r Neuadd Les i'r ardd goffa yn yr Orsedd am wasanaeth byr ac yna bwffe yn Nghlwb y Ceidwadwyr, a drefnir gan Glwb Lluoedd Arfog Cwm Tawe.
- Mae digwyddiadau Diwrnod VE yn Y Gelli Gandryll ddydd Iau 8 Mai yn cynnwys arddangosfa o gerbydau milwrol, gwasanaeth eglwys a thanio goleufa.
- Dathliad Diwrnod VE yn Y Trallwng, 1 - 4pm ddydd Llun 5 Mai: parti stryd ar Stryd Lydan gyda cherddoriaeth fyw. Hefyd, digwyddiadau coffa ddydd Sul 4 Mai a dydd Iau 8 Mai, gan gynnwys gorymdaith a gwasanaeth eglwys, seremoni yn yr ardd goffa ar Rodfa Howell, te prynhawn a thanio goleufa.
- Dathliadau Diwrnod VE Llanfyllin, 12 - 3pm ddydd Llun 5 Mai: parti stryd traddodiadol ar y Sgwâr gydag adloniant byw. Hefyd, digwyddiadau coffa ddydd Iau 8 Mai, gan gynnwys canu clychau, seremoni gosod torchau a thanio goleufa.
Bydd Cyngor Sir Powys hefyd yn cynnal ei seremoni codi baner ei hun yn Neuadd y Sir yn Llandrindod gydag aelodau o'r 160fed Frigâd (Cymreig), y Signalau Brenhinol, Corfflu Nyrsio'r Fyddin Frenhinol a Changen Lleng Brydeinig Frenhinol Llandrindod yn bresennol ddydd Iau 8 Mai.
Gwahoddir y cyhoedd i fod yn bresennol yn y digwyddiad am 12.30pm.
"Rwy'n awyddus iawn i weld cymunedau Powys yn dod at ei gilydd i nodi'r digwyddiadau coffa arwyddocaol hyn," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog. "Mae'r wythnos nesaf yn gyfle i ddathlu ein buddugoliaeth dros y lluoedd ffasgaidd yn Ewrop yn 1945 ac i anrhydeddu a chofio'r aberth a wnaed gan aelodau'r teulu a ffrindiau, a oedd yn fyw yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
"Mae Diwrnod VE yn nodi pwynt allweddol yn ein hanes a heb eu buddugoliaeth 80 mlynedd yn ôl, byddai Prydain wedi wynebu dyfodol llwm a chreulon iawn.
"Mwynhewch eich dathliadau a thagiwch y cyngor yn eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol, os hoffech i ni eu rhannu."
Gall trefnwyr digwyddiadau eu hychwanegu at wefan swyddogol Llywodraeth y DU: https://ve-vjday80.gov.uk/events/
Neu at wefan 80fed Digwyddiad Coffa Diwrnod VE: https://ve80.com/
Bydd gorymdaith a hedfaniad arbennig Diwrnod VE yn Llundain hefyd ddydd Llun 5 Mai, gyda rhagor o wybodaeth ar gael trwy Lywodraeth y DU: https://www.gov.uk/government/publications/how-to-watch-the-2025-victory-in-europe-ve-day-celebrations/how-to-watch-the-ve-day-procession-and-flypast-5-may-2025
LLUN: Parti stryd ar Y Watton yn Aberhonddu yn dathlu Diwrnod VE yn 1945. Llun: Casgliad Y Gaer