Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer gwelliannau i ganol tref Aberhonddu

7 Mai 2025

Defnyddir yr adborth a gasglwyd yn ystod y gweithdai a'r ymgynghoriad diweddar i gwblhau'r cynlluniau a fydd ar gael i'w gweld cyn gynted ag y byddant wedi eu paratoi.
Mewn ymrwymiad i wella cyfleusterau i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, mae'r cynlluniau yn canolbwyntio ar flaenoriaethu profiad cerddwyr, gwella cysylltiadau a bioamrywiaeth, a chreu ardaloedd cyhoeddus diogel, hygyrch sy'n gwella rhinweddau unigryw'r dref ar hyd y Stryd Fawr, gan gynnwys Stryd Fawr Uchaf, Stryd Fawr Isaf, a'r Gwrthglawdd. Disgwylir y bydd y gwaith yn dechrau yn gynnar yn 2026.
"Roedd yn galonogol derbyn adborth adeiladol iawn yn ystod ein hymgynghoriad arlein diweddar a'r sesiynau galw heibio yn Y Gaer." Eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach.
"Mae cadarnhad o gyllid Llywodraeth Cymru yn golygu y gallwn nawr ystyried barn yr unigolion a'r rhanddeiliaid, a chwblhau cynlluniau ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn, sy'n ceisio adfywio canol tref Aberhonddu, gan ei wneud yn ofod mwy hygyrch a deniadol, fydd o ganlyniad yn hwb i'r economi leol.
"Unwaith y byddant wedi'u cwblhau, caiff y cynlluniau terfynol eu rhannu gyda'r gymuned cyn i'r gwaith ddechrau yn 2026."
Yn ychwanegol i'r cynlluniau hyn, mae cyllid grant wedi'i ddarparu'n flaenorol i fusnesau lleol i wella eiddo yng nghanol y dref. Mae'r fenter Trawsnewid Trefi a'r cynlluniau i wella amgylchedd canol y dref wedi'u cynllunio i ysgogi twf economaidd yn y rhanbarth.
Mae'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru a'r cynlluniau i wella canol y dref yn ychwanegol at Gynllun Plas Aberhonddu oedd allan yn ddiweddar am ymgynghoriad gan Gyngor Tref Aberhonddu. Bydd y cynlluniau i wella canol y dref a'r cynllun lle yn ategu ei gilydd, gyda rhanddeiliaid y ddau yn cael y cyfle i roi eu mewnbwn i gynigion yn y dyfodol.