Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Cabinet i Ystyried Model Cyfleoedd Dydd

Day opportunities

08 Mai 2025

Day opportunities
Bydd cynlluniau newydd cyffrous i ddarparu cyfleoedd dydd i gymunedau ledled Powys yn cael eu gweithredu'n ddiweddarach eleni, os caiff argymhelliad ei gymeradwyo gan gabinet y cyngor yr wythnos nesaf.

Cafodd y model newydd ei ddatblygu ar ôl sesiynau ymgysylltu cadarn gyda nifer dda yn bresennol, a bydd y model newydd arfaethedig yn canolbwyntio ar gynhwysiant cymunedol, cynyddu annibyniaeth, a chefnogi pobl i fyw eu bywydau, yn eu ffordd eu hunain.

Bydd model Powys, a drafodwyd gan Bwyllgor Craffu Iechyd a Gofal y cyngor, yn cael ei ystyried gan y Cabinet ar 13 Mai, ac os caiff ei gymeradwyo bydd yn cael ei weithredu'n ddiweddarach eleni.

Mae cyfleoedd dydd yn helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn y gymuned, gan ddefnyddio amrywiaeth o adeiladau a chymorth yn y gymuned.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar, y Cynghorydd Sian Cox: "Ein gweledigaeth yw cael model cyfleoedd dydd sy'n cefnogi pobl i fyw bywyd iach a buddiol, fel aelodau gwerthfawr o'u cymuned a'u cymdeithas, fel eu bod yn gallu cyfranogi yn yr hyn sy'n bwysig iddynt; ac sy'n cefnogi gofalwyr di-dal i wneud yr un peth.

"Yn allweddol i'n model newydd yw galluogi pobl i wneud y mwyaf o'u lles personol mewn ffyrdd sy'n gweithio iddyn nhw fel unigolion, gan ddewis o blith ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol, gwaith a hamdden, gan ddefnyddio ac adeiladu ar y cryfderau sydd ganddynt eisoes, gyda ffocws ar annog iechyd a byw'n annibynnol; a gyda seibiant cyson, dibynadwy, di-bryder i ofalwyr."

Mae cyfleoedd dydd ym Mhowys yn cael eu darparu drwy gymysgedd o wasanaethau statudol a chymorth trydydd sector wedi'i gomisiynu, sydd ar hyn o bryd yn defnyddio gwasanaethau a leolir mewn adeiladau, amrywiaeth o weithgareddau cymunedol fel clybiau cinio, clybiau'n seiliedig ar weithgareddau a gwasanaethau trydydd sector lleol.

O dan fodel newydd Powys, bydd pawb sy'n derbyn cyfle dydd ar hyn o bryd yn parhau i'w dderbyn, boed hynny drwy wasanaeth traddodiadol, byw â chymorth, taliad uniongyrchol neu ddull arall.  Bydd y model newydd yn darparu mwy o gapasiti mewn meysydd allweddol ac yn darparu dull mwy hyblyg a chynaliadwy o gefnogi pobl i ddiwallu'r canlyniadau sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae'r model yn canolbwyntio ar dair haen; Cefnogaeth Ataliol, Cefnogaeth Bersonol, a Gwasanaethau Arbenigol, gan gydnabod y bydd gan unigolion sy'n elwa o gyfleoedd dydd lefelau amrywiol o angen ac y gallai hyn newid dros amser wrth i anghenion pobl gynyddu yn sgil oedran neu salwch, neu wrth iddynt ddod yn annibynnol.

Mae angen cyfnod byr o gymorth ar rai pobl i wireddu eu dyheadau, tra bydd angen cymorth dwys arbenigol tymor hwy ar eraill.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu