Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Perchnogion Lakeside Boathouse yn derbyn gwobr Barcud Arian

Lee and Jenni Percy

14 May 2025

Lee and Jenni Percy
Mae perchnogion Lakeside Boathouse yn Llandrindod wedi cael eu cydnabod am eu hymdrechion gan Gadeirydd Cyngor Sir Powys.

Mae Lee a Jenni Percy, o Landrindod, wedi derbyn Gwobr Barcud Arian gan y Cynghorydd Jonathon Wilkinson am eu gwaith a'u llwyddiant wrth drawsnewid ardal glan y llyn yn atyniad trefol pwysig ers cymryd eu prydles ar y Boathouse.

Mae eu gwaith wedi ennill nifer o wobrau, a gyda'u busnes yn mynd o nerth i nerth, maent bellach wedi llofnodi prydles 10 mlynedd ym Mharc y Creigiau, Llandrindod, gan agor Ystafell De Chalybeate, gan obeithio y rannu mwy o'u hyd a lledrith i ddod â'r Sba yn ôl yn fyw.

Agorodd yr Ystafell De ei drysau i'r cyhoedd ddydd Gwener 9 Mai, lle cyflwynwyd eu gwobr iddynt gan y Cadeirydd. Wrth siarad yn yr agoriad, dywedodd y Cynghorydd Jonathon Wilkinson, Cadeirydd Cyngor Sir Powys: "Mae Lee a Jenni wedi gwneud gwaith gwych gyda Lakeside Boathouse yn Llandrindod sydd bellach yn ganolfan gymunedol ffyniannus, ac mae wedi bod yn wych mynychu'r ystafelloedd te newydd ar ei ddiwrnod agoriadol a gweld y gwaith anhygoel sydd wedi'i wneud i'r fenter newydd hon.

"Maen nhw wir yn haeddu'r wobr hon, ac maen nhw wirioneddol yn cael effaith ar eu cymuned. Llongyfarchiadau."

"Hoffem estyn ein diolch o galon i'r Cadeirydd am y wobr hon. Mae'n anrhydedd wirioneddol cael ein cydnabod fel hyn, ac rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gefnogaeth a'r ymddiriedaeth a roddir ynom," meddai Lee a Jenni Percy.

"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn ein cymell i barhau i wasanaethu gydag ymroddiad ac ymrwymiad. Edrychwn ymlaen at gyfrannu ymhellach a gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein hamcanion cyffredin. Diolch unwaith eto am yr anrhydedd hon."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu