Toglo gwelededd dewislen symudol

Dod o hyd i fudiadau'r celfydyddau ym Mhowys

Theatr

Rydym yn ariannu pedair theatr ym Mhowys sy'n cynnig ystod eang o adloniant gan gynnwys drama, comedi, cerddoriaeth a dawns. Gallwch ddod o hyd i fanylion ar y cynhyrchiadau a gynhelir trwy eu gwefannau:

 

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Theatr Brycheiniog logo

Mae'r adeilad yn darparu awditoriwm theatr, oriel gelf, lleoliad cynadledda, bwyty gyda bwyd Cymreig lleol, bar a lle cymunedol. Mae'r stiwdio ymarfer, y gellir ei  defnyddio hefyd fel ystafell gynadledda, yn gallu eistedd 150 o bobl.

Mae'r lleoliad yn denu nifer o berfformiadau yn amrywio o gomediwyr i ganwyr gwerin a cherddorfeydd llawn, boed yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, Mae hefyd wedi bod yn lleoliad ar gyfer rhannau o benwythnos Gwyl Jazz Aberhonddu.

 

Y Wyeside, Llanfair-ym-Muallt
Wyeside logo

Lleoliad ar gyfer y celfyddydau byw a gweledol a sinema. Mae'r amrywiaeth rhagorol o gyfleusterau yn golygu ei fod yn fan perffaith ar gyfer cyfarfodydd busnes, achlysuron preifat a chynadleddau. Mae Wyeside hefyd ar gael i'w logi fel man perfformio ar gyfer grwpiau amatur a phroffesiynol.

 

Hafren, Y Drenewydd
Hafren Theatr Logo

Ar gael ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd busnes ac achlysuron arbennig. Mae lle i hyd at 500 yn y brif awditoriwm gyda chyfleusterau llwyfan a goleuadau llawn. Mae nifer o ystafelloedd llai hefyd ar gael. Mae lle i 556 yn yr awditoriwm pan fydd ar gynllun cynhadledd. Mae ganddo ddolen ar gyfer mynychwyr â nam ar eu clyw. Gellir defnyddio'r bar yn yr oriel fel man cyfarfod llai, fel man arddangos neu i gynnig lluniaeth.

 

Y Neuadd Les, Ystradgynlais
The Welfare Ystradgynlais logo

Canolfan Gelfyddydol a Chymunedol sy'n cynig lleoliad hyblyg gyda chyfleusterau ar gyfer cynadleddau a llogi preifat.

 

Cynllun Noson Allan Cyngor y Celfyddydau
Image of Arts Council Night Out Scheme logo

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn cefnogi digwyddiadau ym myd y celfyddydau perfformio proffesiynol ym Mhowys trwy ei gynllun teithio 'Noson Allan' o amgylch y cymunedau gwledig.

 

Arts

Canolfan Dreftadaeth a Chelfyddyd Llanwrtyd a'r Cyffiniau

Mae'r ganolfan cynnwys hanes rhyngweithiol y dref a'i chyffiniau trwy gyfrwng paneli gwybodaeth, mapiau rhyngweithiol, a recordiad o atgofion trigolion ac ywmelwyr. Mae'r ganolfan mewn capel annibynnol sydd wedi'i adfer yn briodol ac yn hawdd ei gyrraedd i'r rheiny sydd mewn cadair olwyn neu'n methu â symud yn rhwydd. Mae toiled i'r anabl ar gael yn yr adeilad, ac mae lift yn sicrhau bod y rhan fwyaf o'r arddangosfa'n hygyrch i bawb.

Impelo

Mae Impelo'n sefydliad elusennol sy'n awyddus i gydrannu grym trawsnewidiol dawnsio ar raddfa mor eang â phosibl, gan gysylltu pobl o bob oedran, o bob lliw a llun â'i gilydd, a'u helpu i fynegi eu llawenydd.

Cyswllt: suzy@impelo.org.uk