Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Ffarwelio'n annwyl â'r Cynghorydd Gareth Morgan sy'n ymddeol ar ôl pum degawd o wasanaeth cyhoeddus

Image of Cllr Gareth Morgan and Cllr Jonathan Wilkinson

19 Mai 2025

Image of Cllr Gareth Morgan and Cllr Jonathan Wilkinson
Safodd cyd-aelodau ar eu traed i gyfarch cynghorydd sir hirsefydlog wrth iddo fynychu ei gyfarfod Cyngor Llawn terfynol, gan nodi diwedd pum degawd eithriadol o wasanaeth cyhoeddus ymroddedig.

Cyhoeddodd y Cynghorydd Gareth Morgan, sydd wedi bod yn gynghorydd sir dros Lanidloes ers 1973, i'r siambr ddydd Iau, 15 Mai, ei fod yn sefyll i lawr o'r rôl ar ôl 52 mlynedd.

Yn ystod ei gyfnod gyda Chyngor Sir Powys, cynhaliodd y Cynghorydd Morgan swydd Cadeirydd y Cyngor rhwng 1999 a 2000. Roedd hefyd yn Aelod o Fwrdd y Celfyddydau a Diwylliant ers sefydliad y Bwrdd yn 2002 tan 2008.

I gydnabod ei wasanaeth, cyflwynwyd rhodd i'r Cyng Morgan gan y Cadeirydd a oedd yn gadael y Swydd sef y Cynghorydd Jonathan Wilkinson ar ei ran ef ei hun, cyd-gynghorwyr sir a staff y cyngor.

Gan dalu teyrnged i'r Cynghorydd Morgan yn ystod y Cyngor Llawn, dywedodd y Cadeirydd sy'n gadael y Swydd, y Cynghorydd Jonathan Wilkinson: "Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gwaith rydych chi wedi'i wneud yma yng Nghyngor Sir Powys dros gyfnod hir o amser - rydych chi wedi rhoi gwasanaeth anhygoel."

Gan dderbyn y rhodd, dywedodd y Cynghorydd Morgan wrth gynghorwyr: "Bu'n brofiad gwych bod yn aelod o'r cyngor hwn o'r dechrau ym 1973. Drwy gydol y blynyddoedd y bûm yn aelod, mae wedi bod yn gymaint o fraint bod ymhlith cymaint o ffrindiau.

"Mae awyrgylch wych yn y siambr hon, gwnewch eich gorau i'w chadw. Mae gennym ni i gyd wahaniaethau - gallwn ddadlau yn y siambr ond pan fyddwn yn ei gadael, rhaid i ni anghofio'r gwahaniaethau hynny a rhaid i ni fod yn ffrindiau. Dyma'r ffordd rydym yn cyflawni polisïau ac yn cael yr effaith fwyaf buddiol ar y bobl rydym yn eu cynrychioli."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu