Toglo gwelededd dewislen symudol

Isetholiad Llanidloes

Image of Llanidloes

23 Mai 2025

Image of Llanidloes
Mae isetholiad cyngor sir ar gyfer Llanidloes i'w gynnal, mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau.

Mae'r isetholiad yn digwydd i lenwi swydd wag y cyngor sir yn dilyn ymddiswyddiad Gareth Morgan yn gynharach y mis hwn (Mai).

Mae'r hysbysiad o etholiad wedi'i gyhoeddi ac mae gan unrhyw un sy'n ystyried sefyll fel ymgeisydd tan 4pm ddydd Gwener, 6 Mehefin 2025 i gyflwyno eu papur enwebu i'r Swyddog Canlyniadau.

Os bydd cystadleuaeth yn galw am gael etholiad, caiff ei gynnal ddydd Iau, 3 Gorffennaf, 2025.

Mae gan unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio tan ddydd Mawrth, 17 Mehefin, 2025 er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn. I gofrestru i bleidleisio, ewch i www.gov.uk/registertovote

Dylai etholwyr nodi bod yn rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy'r post neu geisiadau i newid neu ganslo cais presennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Mercher, 18 Mehefin, 2025.

Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Mercher, 25 Mehefin, 2025. Gellir dod o hyd i geisiadau dirprwy yn Enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan

Am fwy o wybodaeth ewch i Etholiadau a phleidleisio

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu