Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Partneriaeth sy'n cefnogi'r gymuned ffermio yn cipio'r ail wobr

Farming Fit at NSA Sheep Event 2025

27 Mai 2025

Farming Fit at NSA Sheep Event 2025
Mae partneriaeth sy'n hyrwyddo iechyd a lles ar draws y gymuned ffermio wedi ennill yr ail wobr mewn digwyddiad ffermio cenedlaethol.

Ddydd Mercher 21 Mai, mynychodd tîm Ffit i Ffermio ddigwyddiad Defaid Cymru 2025 Cymdeithas Genedlaethol y Defaid (NSA) yn Fferm Tregoyd, Aberhonddu, ac yno, o amrywiaeth o stondinau masnach gwahanol, dyfarnwyd yr ail wobr i'r tîm yng nghystadleuaeth y Stondin Fasnach Dan Do Orau.

Mae Ffit i Ffermio, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys, yn mynychu sioeau amaethyddol a marchnadoedd da byw ledled y sir, gan gynnig archwiliadau iechyd sylfaenol, yn ogystal â thrafodaethau a gwybodaeth am iechyd a lles i aelodau'r gymuned ffermio ym Mhowys.

Yn ystod digwyddiad Defaid Cymru NSA 2025, cynhaliodd y tîm 47 o wiriadau iechyd, a chymryd rhan mewn nifer o sgyrsiau iechyd ystyrlon gyda'r rhai a oedd yn bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: "Mae'n hanfodol bod y lle diogel a chyfrinachol hwn ar gael i aelodau'r gymuned ffermio ddod iddo, siarad a chael eu hiechyd wedi'i wirio, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

"Mae sefyll allan mewn digwyddiadau fel hyn mor bwysig, gan ei fod yn golygu eich bod chi'n weladwy ac ar gael ymhlith yr holl weithgareddau eraill, felly mae cael eich dyfarnu'n ail yn gamp wych ac yn cydnabod y gwaith y mae'r tîm wedi'i wneud i gefnogi ein cymunedau. Llongyfarchiadau tîm a diolch yn fawr."

Os hoffech ddysgu mwy am Ffit i Ffermio, ewch i'n gwefan.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu