Gwahardd fêps untro yn dod i rym

4 Mehefin 2025

Mae'r gwaharddiad, a ddaeth i rym ddydd Sul, 1 Mehefin, yn ei gwneud yn drosedd i gyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim) cynhyrchion fêps untro i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Nod Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 yw atal difrod amgylcheddol a achosir gan gynhyrchu a gwaredu'r cynhyrchion hyn yn anghywir.
Bydd y gwaharddiad yn cynnwys fêps sy'n cynnwys nicotin, di-nicotin, CBD a dyfeisiau iechyd/fitamin eraill.
Gyda'r gwaharddiad bellach mewn grym, mae angen i fusnesau wneud y canlynol:
- Rhoi'r gorau i werthu cynhyrchion fêp untro i gwsmeriaid neu fusnesau eraill.
- Rhoi gorau i brynu cynhyrchion fêp untro gan gyfanwerthwyr.
- Dweud wrth eu staff am y newidiadau hyn.
Er mwyn i fêp gael ei ystyried yn ailddefnyddiadwy, rhaid iddo fod yn un o'r canlynol:
- Ailwefradwy - A yw'n cynnwys batri y gellir ei ailwefru sawl gwaith? Rhaid i'r batri fod yn ailwefradwy, yn hytrach nag yn amnewidiadwy.
- Ail-lenwadwy - A all y defnyddiwr ail-lenwi'r ddyfais gyda hylif fêp neu amnewid yr hylif trwy bodiau neu gynwysyddion cydnaws
- Coil Amnewidiadwy - A all y defnyddiwr amnewid y coil? Bydd y cynnyrch yn cydymffurfio os yw'r coil wedi'i integreiddio i danciau, podiau neu gynwysyddion amnewidiadwy, ar yr amod bod y rhain ar gael ar wahân.
Dylai busnesau sydd yn dal i fod â chynhyrchion gwaharddedig siarad â chyflenwyr neu gwmnïau gwaredu presennol ynglŷn â sut i'w hailgylchu'n ddiogel ac yn gyfreithlon.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: "Rwy'n croesawu'r newyddion bod fêps untro bellach wedi'u gwahardd. Mae hyn yn nodi cam sylweddol ymlaen o ran diogelu iechyd y cyhoedd a lleihau'r niwed amgylcheddol y gall y cynhyrchion hyn ei achosi ar draws ein sir.
"Mae hefyd yn hanfodol bod busnesau a thrigolion yn deall y dulliau gwaredu cywir ar gyfer yr eitemau hyn.
"Ni ddylid byth rhoi fêps untro mewn gwastraff cartref oherwydd y risg difrifol y gallant achosi tân. Yn lle hynny, dylid eu cludo i ganolfan ailgylchu cartrefi ddynodedig i sicrhau y delir â nhw yn ddiogel ac yn gyfrifol."
Dylai manwerthwyr ddarparu gwasanaeth casglu fêps wedi'u defnyddio. I ddod o hyd i'ch manwerthwr agosaf i gael gwared ar fêp wedi'i ddefnyddio, ewch i www.recycleyourelectricals.org.uk