Disgyblion Powys yn dathlu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025

4 Mehefin 2025

Mae eu llwyddiant yr wythnos ddiwethaf ym Mharc Margam wedi derbyn croeso cynnes gan Gyngor Sir Powys, sydd wedi canmol y disgyblion a'r ysgolion am eu creadigrwydd, eu hymroddiad a'u brwdfrydedd dros ddiwylliant Cymraeg.
Fel gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop, mae Eisteddfod yr Urdd yn denu tua 15,000 o gystadleuwyr yn flynyddol ac yn darparu llwyfan bywiog i bobl ifanc arddangos eu doniau mewn cerddoriaeth, perfformio, llenyddiaeth a chyfryngau digidol - gan ddathlu cyfoeth yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn hynod falch o'r holl ddisgyblion ac ysgolion o Bowys a gymerodd ran yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Mae eu creadigrwydd, eu hyder a'u hymrwymiad i ddiwylliant a'r iaith Gymraeg yn wirioneddol ysbrydoledig.
"Rydym yn cydnabod gwaith caled y disgyblion, athrawon a theuluoedd wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod ac yn diolch iddynt am eu hymroddiad parhaus i hyrwyddo diwylliant Cymraeg a rhagoriaeth mewn addysg.
"Nid yn unig yw digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd yn tynnu sylw at gyfoeth y dalent yn ein cymunedau ond y mae hefyd yn helpu i feithrin cariad gydol oes at y celfyddydau, yr iaith a hunaniaeth. Llongyfarchiadau i bawb a fu'n rhan ohoni - rydych chi'n llysgenhadon gwych i Bowys."