Argymhellion newydd ar gyfer parcio ceir

4 Mehefin 2025

Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd, grwpiau ffocws, trafodaethau, dadansoddi data ac ymarferion meincnodi, mae adolygiad meysydd parcio Cyngor Sir Powys bellach wedi dod i ben gydag argymhellion diwygiedig ar gyfer trefniadau parcio ceir y sir.
Nawr bod yr adolygiad wedi'i gwblhau, mae'r adroddiad sydd i'w gyflwyno i'r cabinet a'i drafod gan y pwyllgor craffu yn argymell bod y cyngor yn gwneud y canlynol:
1. Ailgyflwyno'r tariff parcio 1 awr i bob maes parcio arhosiad hir yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996.
2. Gosod tariffau ar gyfer parcio hyd at 1 awr i £1.50, parcio am 1-2 awr i £2.50, parcio am 2-4 awr i £3.50 a pharcio drwy'r dydd i £5.00 yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996.
3. Cyflwyno trwydded maes parcio sengl newydd (i'w defnyddio mewn un maes parcio penodol yn unig) am gost o £280 (blynyddol), £155 (6 mis), £90 (3 mis) a £30 (1 mis).
"Rydym yn gwerthfawrogi bod trefniadau parcio ceir yn y sir yn bwnc emosiynol iawn i'n trigolion a'n busnesau," eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Werddach.
"Roedd yn bwysig iawn ein bod wedi cymryd yr amser i ystyried yr holl opsiynau a chymryd i ystyriaeth yr adborth gan y grŵp adolygu, y pwyllgor craffu, ein trigolion, busnesau ac ymwelwyr.
"Mae mwy o waith i'w wneud o hyd o ran y cynlluniau hirdymor ar gyfer trefniadau parcio yn y sir ond, am y tro, credwn y bydd yr argymhellion hyn yn dderbyniol i'n cymunedau, yn ogystal â bod yn opsiwn ymarferol, cynaliadwy a fforddiadwy i'r cyngor ei gyflawni o fewn ein cyfyngiadau cyllidebol tynn."
Cynhaliwyd y broses adolygu parcio ceir gan grŵp trawsbleidiol o gynghorwyr lleol, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gynghorau tref a busnesau lleol lle mae meysydd parcio wedi'u lleoli, ac fe'i harweiniwyd gan ymgynghorydd annibynnol a diduedd.
Yn ogystal â thariffau parcio ceir, ystyriodd yr adolygiad parcio ceir y ffordd orau o reoli holl feysydd parcio'r cyngor, nifer y bobl sy'n ymweld â chanol y dref, effeithiau a manteision cynlluniau teithio llesol lleol, adnoddau sydd ar gael, anghenion y cymunedau lleol a Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy'r cyngor. Bydd gwaith yn parhau dros amser i fynd i'r afael â'r holl agweddau hyn gyda gweledigaeth o greu meysydd parcio cynaliadwy sy'n addas ar gyfer dyfodol Powys.