Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth: Canllawiau i Berchnogion Tai

Beth yw pwrpas y canllawiau hyn?
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer perchnogion tai ym Mhowys sy'n cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer:
- Estyniadau
- Adeiladau allanol
- Anheddau sengl
- Gwaith tirlunio
- Pyllau nofio
- Cymeradwyaethau amaethyddol ymlaen llaw
- Newidiadau ar raddfa fach gydag effeithiau allanol
Beth yw Seilwaith Gwyrdd?
Seilwaith Gwyrdd yw'r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol sy'n cysylltu lleoedd ac yn cefnogi bioamrywiaeth. Mae'n cynnwys y canlynol:
- Nodweddion ar raddfa fawr fel afonydd, gwlyptiroedd a choetiroedd
- Nodweddion lleol fel parciau, gerddi, gwrychoedd, pyllau a hawliau tramwy cyhoeddus
- Elfennau ar raddfa fach fel coed stryd, toeau gwyrdd, ardaloedd blodau gwyllt a waliau byw
Pam mae angen Datganiad Seilwaith Gwyrdd?
O dan Bolisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 12), rhaid i bob cais cynllunio gynnwys Datganiad Seilwaith Gwyrdd. Dylai hwn wneud y canlynol:
- Bod yn gymesur â graddfa'r datblygiad
- Nodi nodweddion Seilwaith Gwyrdd a bioamrywiaeth presennol ar y safle neu gerllaw'r safle
- Esbonio sut y bydd y datblygiad yn amddiffyn, yn gwella, neu'n adfer y nodweddion hyn
Beth yw Asesiad Seilwaith Gwyrdd?
Mae Asesiad Seilwaith Gwyrdd yn nodi'r asedau gwyrdd a bioamrywiaeth ar neu o amgylch eich eiddo. Gallai'r rhain gynnwys y canlynol:
- Coed, gwrychoedd, llwyni
- Ardaloedd blodau gwyllt, glaswelltir, pyllau
- Perllannau, coetir neu brysgwydd
Mae'r asesiad yn eich helpu i ddeall sut y gallai eich datblygiad effeithio ar y nodweddion hyn a sut i ddylunio'ch prosiect i'w hamddiffyn neu eu gwella.
Dull Cam wrth Gam
Wrth baratoi eich Datganiad Seilwaith Gwyrdd, dilynwch y dull chwe cham hwn:
- Osgoi
Cynlluniwch eich prosiect i osgoi niweidio cynefinoedd neu nodweddion gwerthfawr (ee ailgyfeirio mynediad, amddiffyn gwreiddiau coed, osgoi pyllau neu glwydfannau ystlumod). - Lleihau
Os na ellir osgoi niwed, dylid lleihau'r effaith trwy gadw nodweddion, cynnal cysylltedd cynefinoedd, a chynllunio ar gyfer ôl-ofal. - Lliniaru / Adfer
Atgyweiriwch unrhyw ddifrod drwy blannu coed, gwrychoedd, neu flodau gwyllt, ac ychwanegu nodweddion fel blychau adar/ystlumod, toeau gwyrdd, neu erddi glaw. - Digolledu ar y safle
Os yw'r effeithiau'n parhau, darparwch nodweddion cynefin neu Seilwaith Gwyrdd ychwanegol ar y safle, gyda chynlluniau ar gyfer eu gofal hirdymor. - Digolledu oddi ar y safle
Fel dewis olaf, darparwch welliannau Seilwaith Gwyrdd cyfatebol oddi ar y safle, gyda chynlluniau rheoli priodol. - Gwrthod
Os yw'r datblygu yn achosi niwed sylweddol i fioamrywiaeth neu Seilwaith Gwyrdd na ellir mynd i'r afael â nhw, gellir gwrthod caniatâd cynllunio.
Beth i'w Gynnwys yn Eich Datganiad Seilwaith Gwyrdd
Dylai eich datganiad ddisgrifio'n fyr y canlynol:
- Y nodweddion Seilwaith Gwyrdd a bioamrywiaeth presennol ar eich safle neu gerllaw'r safle
- Sut y gallai eich datblygiad effeithio arnynt
- Y camau y byddwch yn eu cymryd i osgoi, lleihau neu liniaru niwed
- Unrhyw welliannau y byddwch yn eu cynnwys i gefnogi bioamrywiaeth
Nid oes angen i hyn fod yn gymhleth—dim ond yn glir ac yn feddylgar.