Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid ffres yn ysgogi brwydr Powys yn erbyn tlodi plant

Image of kids playing sports, gardening, arts and crafts and a group of children

5 Mehefin 2025

Image of kids playing sports, gardening, arts and crafts and a group of children
Cafwyd cyhoeddiad bod ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi plant ym Mhowys wedi cael hwb sylweddol diolch i grant o £125,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Sir Powys yn un o 25 o sefydliadau ledled Cymru i dderbyn cyfran o'r £1.495 miliwn a ddyfarnwyd drwy Gynllun Grant Arloesi a Chefnogi Cymunedau Tlodi Plant Llywodraeth Cymru. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi dulliau beiddgar, cydweithredol gan sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector i fynd i'r afael â thlodi plant a gwella canlyniadau i blant a theuluoedd.

Y llynedd, sicrhaodd y cyngor £90,000 drwy'r un cynllun grant, gan alluogi darparu cymorth a mentrau a oedd yn cefnogi mwy na 3,000 o unigolion.

Bydd y cyllid newydd hwn yn gweld y cyngor a'i bartner Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) yn parhau i gydweithio ar fentrau i fynd i'r afael â thlodi plant yn y sir.

Bydd yr arian diweddaraf yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiect newydd o'r enw 'Siarad Gwirionedd i Bowys' a fydd yn cael ei gyflwyno o dan ymbarél Tasglu Tlodi Plant Powys. Nod y prosiect yw mynd i'r afael ag effeithiau uniongyrchol, hir dymor a chanolig tlodi plant drwy dair menter:

  • Swyddog Ymgysylltu Pobl Ifanc: Bydd swyddog penodedig yn ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc ledled Powys, ar-lein ac yn bersonol, i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod eu profiadau'n llywio cefnogaeth yn y dyfodol. Mae hyn yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o'r prosiect "Cydweithio dros Newid" blaenorol
  • Comisiwn Gwirionedd Tlodi: Bydd comisiwn newydd yn dod â phobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon o dlodi a phenderfynwyr ynghyd i archwilio achosion sylfaenol tlodi ym Mhowys a chreu atebion ar y cyd. Bydd pobl ifanc 18-25 oed hefyd yn cael eu cynrychioli, gan sicrhau bod safbwyntiau rhwng y cenedlaethau'n cael eu cynnwys
  • Cynllun Cymorth Hanfodol: Bydd cynllun cymorth ymarferol yn darparu taliadau unigol i deuluoedd sydd ag anghenion brys, gan eu helpu i gael mynediad at hanfodion megis bwyd, dillad, trydan a thrafnidiaeth. Gwneir ceisiadau gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n agos gyda theuluoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae sicrhau'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn gymeradwyaeth rymus i'n dull beiddgar ac arloesol o fynd i'r afael â thlodi plant.

"Mae'r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i weithredu ar frys gan osod y sylfeini ar gyfer newid parhaol. Drwy wrando ar y rhai sydd â phrofiad o lygad y ffynnon a gweithio'n agos gyda'n partneriaid a'n cymunedau, nid mynd i'r afael â thlodi yn unig yr ydym - rydym yn adeiladu Powys gryfach, decach a gwyrddach lle mae gan bob plentyn y cyfle i ffynnu."

Dywedodd y Cynghorydd Joy Jones, Hyrwyddwr Gwrth-dlodi Cyngor Sir Powys: "Y tu ôl i bob ystadegyn mae plentyn, teulu, stori. Mae'r cyllid hwn yn rhoi cyfle i ni wrando'n agosach, gweithredu'n fwy tosturiol, ac ymateb yn fwy effeithiol i'r heriau gwirioneddol y mae pobl yn eu hwynebu.

"Drwy gydweithio a rhoi profiad o lygad y ffynnon wrth wraidd ein hymagwedd, gallwn wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau'r rhai sydd ei angen fwyaf."

Dywedodd Clair Swales, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO): Rwy'n falch y gallwn barhau i adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd gennym y llynedd i fynd i'r afael â thlodi plant ym Mhowys ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio parhaus gyda Chyngor Sir Powys.

"Mae'r cyllid hwn yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni wella bywydau plant a phobl ifanc sy'n profi tlodi ledled y sir, drwy wrando ar eu lleisiau a'u gosod wrth wraidd ein gwaith."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu