Toglo gwelededd dewislen symudol

Ewch i ymweld â'ch llyfrgell leol yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd 2025

Community, Culture and Digital Officer Emily Berry

5 Mehefin 2025

Community, Culture and Digital Officer Emily Berry
Mae trigolion Powys yn cael eu hatgoffa am yr holl wasanaethau gwych a gynigir gan lyfrgelloedd y sir yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd 2025 (2 - 8 Mehefin).

Mae 18 o lyfrgelloedd ym Mhowys sydd i gyd naill ai'n cael eu rhedeg gan y cyngor sir neu gan wirfoddolwyr, sy'n cynnig gwasanaeth benthyg llyfrau mewn partneriaeth â'r cyngor. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am bob un ohonynt, gan gynnwys amseroedd agor, drwy wefan Stori Powys: https://storipowys.org.uk/visit-us/libraries/

Mae llyfrgelloedd Powys yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i oedolion a phlant sy'n cefnogi llesiant a dysgu gydol oes.

Mae llythrennedd yn ysgogydd allweddol, ac maent yn cynnig ystod eang o deitlau ffuglen a ffeithiol i gwsmeriaid.

Mae llythrennedd digidol hefyd yn flaenoriaeth, ac mae eu gwasanaethau'n cynnwys darparu cyfleoedd uwchsgilio digidol, benthyciadau offer (iPads, gliniaduron ac amrywiaeth o becyn digidol arall), a detholiad eang o e-adnoddau.

Mae llyfrgelloedd hefyd yn darparu rhaglen o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau rheolaidd i blant a gweithgareddau i oedolion sy'n cwmpasu myrdd o themâu diwylliannol ac addysgol.

"Rydym yn annog holl drigolion Powys i gael cipolwg i weld yr hyn sydd gan eu llyfrgell leol i'w chynnig yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd 2025," meddai'r Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol.

"Mae eu cynigion mor amrywiol â'r cymunedau y maent yn eu cefnogi ac maen nhw'n helpu i ddatblygu hyder a llythrennedd iaith, sgiliau digidol a chynhwysiant, ynghyd â hyrwyddo iechyd da a chadernid.

"Mae ein tîm o staff rheng flaen yn weithwyr proffesiynol gwybodus medrus, sydd wedi'u hyfforddi i gyfeirio ymwelwyr at amrywiaeth o adnoddau cymunedol, gan gynnwys Gwasanaethau Cwsmer y cyngor a sefydliadau partner."

Mae rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau celfyddydau a diwylliant y cyngor ar gael drwy wefan Stori Powys: https://storipowys.org.uk/

Mae'n cynnwys gwybodaeth am:

·       Ymweld ag archifau, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd y cyngor.

·       Dod o hyd i lyfr neu ei adnewyddu.

·       Digwyddiadau creadigol sy'n digwydd ledled Powys: https://storipowys.org.uk/whats-on/

Am gymorth ychwanegol gydag unrhyw wasanaethau Llyfrgelloedd Powys, e-bostiwch library@powys.gov.uk neu ffoniwch y Llinell Llyfrgell ar 01874 612394.

CAPSIWN Y LLUN: Emily Berry, Swyddog Cymunedol, Diwylliant a Digidol yn paratoi i groesawu trigolion Powys i Lyfrgell Tref-y-clawdd yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu