Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair

Image of a primary school classroom

6 Mehefin 2025

Image of a primary school classroom
Bydd ysgol gynradd ym Mhowys yn cael ei chefnogi gan dîm o uwch swyddogion addysg ar ôl i arolygwyr Estyn deimlo bod angen gwella sylweddol arni, meddai'r cyngor sir.

Bydd Cyngor Sir Powys yn cefnogi Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair yn y Drenewydd yn dilyn ei arolwg Estyn a gynhaliwyd ym mis Mawrth.

Canfu Estyn fod yr ysgol yn meithrin cymuned ysgol gynhwysol ac anogol lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwarchod a'u gwerthfawrogi. Fodd bynnag, roedd arolygwyr o'r farn bod angen gwella sylweddol ar yr ysgol yn dilyn yr arolwg.

Mae'r ysgol a'r cyngor wedi derbyn yr adroddiad a'r argymhellion, a fydd yn sail i gynllun gweithredu manwl ar y cyd i fynd i'r afael â meysydd allweddol sydd angen gwella.

Bydd yr ysgol a'i chorff llywodraethu yn gweithio gyda swyddogion y cyngor i nodi'r rhesymau am ganlyniad yr arolwg ac i gyflawni'r gwelliannau sy'n ofynnol. Bydd staff, disgyblion a rhieni yn cael cymorth llawn yn ystod y daith gwella.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn cydnabod canfyddiadau Estyn a'r meysydd lle mae'n rhaid i Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair wella. Mae'r adroddiad yn cynnig llwybr clir ymlaen, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi arweinyddiaeth yr ysgol wrth gyflawni'r newidiadau angenrheidiol.

"Gyda'n gilydd, byddwn yn cymryd camau pendant i gyflawni'r argymhellion a sicrhau'r canlyniadau gorau i ddysgwyr."

Dywedodd Mike Bacigalupo, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair: "Mae'r adroddiad yn cydnabod yn briodol yr amgylchedd cynhwysol ac anogol yr ydym wedi'i adeiladu yn y Santes Fair, lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Rydym yn falch o'r berthynas gref rhwng staff, disgyblion a rhieni, ac ymroddiad ein tîm i feithrin diwylliant ysgol gadarnhaol. Rydym yn derbyn canfyddiadau arolwg Estyn yn llawn ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r meysydd a nodwyd ar gyfer gwella.

"Rydym yn ymdrechu i sicrhau'r canlyniadau gorau i bob plentyn yn y Santes Fair a byddwn yn parhau i ganolbwyntio'n gadarn ar wneud hynny. Fel llywodraethwyr, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r pennaeth, staff, Cyngor Sir Powys, a'n cymuned ysgol ehangach i weithredu cynllun gweithredu cadarn.

"Er ein bod yn cydnabod bod gwaith pwysig i'w wneud - yn enwedig wrth gryfhau ein cwricwlwm, gwella presenoldeb, a sicrhau bod pob disgybl yn ymgysylltu'n gyson ac yn gwneud y cynnydd y gallant ei wneud - rydym wrth ein bodd bod Estyn wedi cydnabod ein cryfderau."

I weld adroddiad yr arolwg, ewch i www.estyn.gov.wales

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu