Cyfathrebu â Chi

- Ein nod yw cyfathrebu â chi naill ai yn eich dewis iaith neu yn y dull cyfathrebu rydych chi'n ei ffafrio, fel Makaton/hawdd ei ddarllen/e-bost/dogfennau print bras.
- Ein nod yw cofnodi ein sgyrsiau yn eich geiriau eich hun.
- Ein nod yw gwneud ein holl ddogfennau mor syml a hawdd eu deall â phosib.
- Os yw'n well gennych, gallwch gael rhywun gyda chi neu gael rhywun i siarad ar eich rhan fel ffrind neu berthynas neu gallwn drefnu rhywun (eiriolwr). Os na allwch wneud penderfyniadau drosoch eich hun, am ba bynnag reswm, gallwn benodi rhywun i weithredu er eich lles pennaf i sicrhau bod eich llais a'ch barn yn cael eu clywed.