Ein nod yw eich helpu chi a'r bobl sy'n gofalu amdanoch chi i aros yn annibynnol, yn ddiogel ac yn iach fel y gallwch chi fyw'r bywyd rydych chi ei eisiau.
Byddwn yn eich helpu i nodi eich cryfderau a sut i ddefnyddio'r rhain i oresgyn anawsterau yn eich bywyd. Canolbwyntio ar yr hyn sy'n gweithio'n dda ac adeiladu ar hyn i'ch helpu i gyflawni eich nodau (canlyniadau).
Ein nod yw cyfathrebu â chi naill ai yn eich dewis iaith neu yn y dull cyfathrebu rydych chi'n ei ffafrio, fel Makaton/hawdd ei ddarllen/e-bost/dogfennau print bras.
Byddwn yn canolbwyntio ar yr 'hyn sydd bwysicaf' i chi, sut gallwn eich cefnogi i nodi a chyflawni eich nodau personol (canlyniadau). Mae hyn yn golygu edrych ar sut gallwn weithio tuag at wella'ch iechyd a'ch llesiant, ochr yn ochr â'ch cryfderau a'ch galluoedd a rhai eich teulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.
Mae dewis a mentro yn rhan o fywyd bob dydd; rydyn ni eisiau eich cefnogi i wneud y pethau rydych yn mwynhau eu gwneud, hyd yn oed pan fyddan nhw'n cynnwys risg.
Ein nod yw cyfathrebu â chi naill ai yn eich dewis iaith neu yn y dull cyfathrebu rydych chi'n ei ffafrio, fel Makaton/hawdd ei ddarllen/e-bost/dogfennau print bras.
Byddwn yn canolbwyntio ar yr 'hyn sydd bwysicaf' i chi, sut gallwn eich cefnogi i nodi a chyflawni eich nodau personol (canlyniadau). Mae hyn yn golygu edrych ar sut gallwn weithio tuag at wella'ch iechyd a'ch llesiant, ochr yn ochr â'ch cryfderau a'ch galluoedd a rhai eich teulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.
Mae dewis a mentro yn rhan o fywyd bob dydd; rydyn ni eisiau eich cefnogi i wneud y pethau rydych yn mwynhau eu gwneud, hyd yn oed pan fyddan nhw'n cynnwys risg.
Rydyn ni'n hyfforddi ac yn cefnogi ein staff i weithio yn y dull hwn sy'n seiliedig ar gryfderau. Mae ein hyfforddwyr a'n mentoriaid yn cynnig cymorth parhaus i sicrhau bod y model hwn yn cael ei gynnal a'i ddatblygu. Mae gennym e-lyfr hyfforddi penodol a fframwaith hyfforddi i helpu staff i ddysgu a defnyddio'r dull hwn. Rydyn ni wedi gwreiddio mecanweithiau adborth yn ein e-lyfr hyfforddi i'n galluogi i wella drwy'r amser.
Er mwyn cefnogi ein staff i gofnodi gwybodaeth amdanoch chi mewn ffordd hawdd ei deall, byddant yn dilyn yr egwyddorion a nodir yn y ddogfen hon: Cyfaill nid gelyn
Adborth staff am y dull sy'n seiliedig ar gryfderau:
''Mae unigolion yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnom...yn teimlo'n fwy sensitif ac empathig o ran eu dymuniadau unigol''
''Mae ymchwilio i bob llwybr yn rhoi mwy o opsiynau i unigolion, gan ymchwilio i beth arall sydd ar gael yn y gymuned''
''canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gyfleu 'beth sy'n bwysig' i'r person, mae'n hyrwyddo proses gyfnewid mwy gonest''
Mae staff yn cael goruchwyliaeth reolaidd a chyfarfodydd ymarfer myfyriol i wreiddio'r dull, ac rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth hon i wneud gwelliannau.
Cyd-gynhyrchu a Phartneriaethau
Mae cyd-gynhyrchu a phartneriaethau yn egwyddorion pwysig yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Mae hyn yn golygu gweithio gyda chi, eich teulu, ffrindiau, a
gofalwyr i wneud yn siŵr bod eich lleisiau, eich barn, a'ch dymuniadau yn cael eu clywed yn iawn. Mae cyd-gynhyrchu yn ffordd i bobl sy'n darparu gwasanaethau a phobl sy'n derbyn gwasanaethau gydweithio mewn perthnasoedd cyfartal a gofalgar. Mae'n galluogi pobl i gael mynediad at gymorth pan fydd ei angen arnyn nhw; yn eu hannog i roi adborth ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn nad yw'n gweithio'n dda; ac yn eu galluogi i gyfrannu at gynllunio/ ailgynllunio gwasanaethau cymorth.
Elfennau allweddol cyd-gynhyrchu yw gwerthfawrogi pawb sy'n cymryd rhan, datblygu rhwydweithiau cymorth ar y cyd, gwneud yr hyn sy'n bwysig i bawb dan sylw, meithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth, rhannu pŵer a chyfrifoldeb.
Mae'r Ddeddf hefyd yn disgwyl i ni gryfhau ein partneriaethau ag gydweithio ac i sicrhau bod ein dull sy'n seiliedig ar gryfderau yn cael ei ddeall a'i gefnogi ar draws asiantaethau partner.
Gweithredu ar sail system gyfan
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn dweud bod angen i grwpiau cyhoeddus yng Nghymru gydweithio i wneud pobl a chymunedau'n fwy gwydn. Rydyn ni'n defnyddio model sy'n seiliedig ar gryfderau i helpu unigolion, sy'n golygu bod pob gweithiwr proffesiynol yn gweithio gyda'i gilydd i nodi cryfderau pobl yn hytrach na'u hanableddau.
Rydyn ni'n cydnabod bod y dull hwn yn cymryd mwy o amser gan fod angen i ni feithrin perthynas â phobl er mwyn llawn ddeall nhw a'u sefyllfa; wrth wneud hyn, ein nod yw rhoi'r cymorth iawn ar yr adeg iawn.
Am fwy o wybodaeth am unrhyw beth yn y ddogfen hon, cysylltwch â: CYMORTH 0345 602 7050