Cefnogi Annibyniaeth

- Rydyn ni'n cydnabod bod pawb yn wahanol, byddwn yn eich trin fel unigolyn.
- Byddwn yn edrych ar yr hyn y gallwch ei wneud drosoch eich hun ac yn adeiladu ar y sgiliau hyn i'ch helpu i gynnal/gwella eich annibyniaeth.
- Byddwn yn eich cefnogi i nodi'r cymorth sydd o'ch cwmpas fel teulu, ffrindiau a'r gymuned leol.
- Byddwn yn eich helpu i nodi lle gall offer a/neu dechnoleg gynorthwyol eich cefnogi i gynnal eich annibyniaeth.
- Byddwn yn eich helpu i wneud y mwyaf o'ch incwm er mwyn osgoi anawsterau ariannol, gwella ansawdd eich bywyd, a rhoi mwy o ddewisiadau i chi.
- Rydyn ni'n gwybod bod y rhan fwyaf ohonoch chi eisiau dod o hyd i'ch atebion eich hun a'n gwaith ni yw eich cefnogi a'ch helpu i gyrraedd yno. I wneud hyn, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â chi i ddatblygu eich cynllun eich hun, gan gynnwys sut caiff cymorth ei ddarparu a gan bwy, gan gynnwys rôl gweithwyr proffesiynol eraill fel nyrsys ardal neu staff ysbytai, yn ôl yr angen.