Ydyn ni wedi gwneud gwahaniaeth?

Lle mae gennych Gynllun Gofal, byddwn yn ceisio ei adolygu'n rheolaidd gyda chi er mwyn:
- Sicrhau ei fod yn dal yn addas at y diben.
- Deall a yw wedi gwneud gwahaniaeth.
- Nodi a oes angen unrhyw newidiadau.
- Byddwn yn gofyn am eich adborth ar ein gwasanaeth ac yn defnyddio hwn i ysgogi gwelliannau. (Defnyddiwr Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion | Dweud Eich Dweud Powys)
- Pan fydd pethau'n gwella, mae'n bwysig dweud hynny, ond pan nad ydyn nhw, efallai y bydd angen i ni wneud newidiadau.