Adolygiad o Addysg ôl-16

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cynnal Adolygiad Strategol o addysg ôl-16, sy'n anelu at nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer addysg ôl-16 yn ysgolion y sir.
Mae hyn yn dilyn yr argymhelliad yn arolwg diweddar Estyn o Wasanaethau Addysg y Cyngor i 'Weithio gyda phartneriaid i ddatblygu a gweithredu model ar gyfer addysg 16-19 oed sy'n hyfyw ac yn gynaliadwy yn ariannol, yn diwallu anghenion pob dysgwr, ac yn ystyried darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ADY.'
Fel rhan o'r adolygiad hwn, ystyriodd Cabinet y Cyngor bapur yn ddiweddar yn amlinellu'r ddarpariaeth bresennol, yr heriau sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth hon, a nifer o opsiynau ar gyfer y dyfodol. Mae'r papur a ystyriwyd gan y Cabinet ar gael isod:
Cam nesaf y gwaith yw ymgysylltu ar gynlluniau'r Cyngor i gefnogi datblygiad ffordd ymlaen. Mae hyn wedi dechrau yn nhymor yr haf 2025, gyda sesiynau ymgysylltu ar gyfer staff a llywodraethwyr uwchradd. Mae'r sleidiau o'r sesiynau hyn ar gael yma: Adolygiad Strategol o Ddarpariaeth Ôl-16 Digwyddiadau Ymgysylltu - Gorffennaf 2025 (PDF, 699 KB)
Bydd y gwaith ymgysylltu yn parhau yn nhymor yr hydref, pan fydd cyfleoedd i'r holl randdeiliaid gyfrannu, yn cynnwys dysgwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr adolygiad, cysylltwch â'r Tîm Trawsnewid Addysg gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Cysylltiadau
Eich sylwadau am ein tudalennau