Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhwydwaith Trafnidiaeth Gyhoeddus Powys i gael ei uwchraddio

Image of a bus in Powys

19 Mehefin 2025

Image of a bus in Powys
Mae Cyngor Sir Powys yn falch o gyhoeddi bod ei ymgynghoriad ac ymgysylltiad cyhoeddus llawn ar wasanaethau bysiau lleol wedi dod i ben yn llwyddiannus a bydd yn dyfarnu contractau saith mlynedd newydd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ledled y sir yn fuan.

Cynhaliwyd ymgysylltiad gyda'r cyhoedd yn ystod 2024 i baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad.  Gwahoddodd yr ymgynghoriad chwe wythnos, a gynhaliwyd yn ystod mis Ionawr a Chwefror 2025, breswylwyr, rhanddeiliaid a darparwyr trafnidiaeth i rannu eu barn ar newidiadau arfaethedig i'r rhwydwaith bysiau lleol. Drwy gydol y cyfnod ymgynghori a'r nifer o ddigwyddiadau galw i mewn, mae lefel yr adborth gan randdeiliaid wedi bod yn dda, gan adlewyrchu ymgysylltiad cymunedol cryf ac ymrwymiad cyffredin i wella trafnidiaeth gyhoeddus ym Mhowys.

Amlygodd adborth allweddol o'r ymgynghoriad yr angen am:

  • Wasanaethau mwy dibynadwy a rheolaidd mewn ardaloedd gwledig
  • Cysylltiadau gwell rhwng trefi a gwasanaethau allweddol
  • Gwella hygyrchedd i breswylwyr hŷn a'r rhai â heriau symudedd
  • Strwythurau prisiau fforddiadwy a symlach     

Mewn ymateb, mae Cyngor Sir Powys wedi diwygio ei amserlenni a'i lwybrau gwasanaeth bysiau lleol, gan ymgorffori adborth gan y cyhoedd i sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth mwy effeithlon, cynhwysol a chynaliadwy. Caiff y cynigion drafft hyn eu trafod gan bwyllgor craffu'r cyngor ddydd Gwener 20 Mehefin cyn eu cyflwyno i'r cabinet i'w cymeradwyo.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach:

"Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgysylltiad ac ymgynghoriad cyhoeddus. Mae eich adborth wedi helpu'n uniongyrchol i lunio dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus ym Mhowys. Bydd y gwasanaethau newydd arfaethedig yn ein helpu i adeiladu sir fwy cysylltiedig.

"Gydag ymrwymiad y cyngor ar gyfer Powys Gynaliadwy, mae'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwell hwn wedi'i anelu at gefnogi gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus o'n cymunedau a'n hardaloedd i drefi craidd y sir o fewn awr o amser teithio.

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid trafnidiaeth newydd i gyflawni'r weledigaeth hon ar gyfer Powys."

Yn dilyn cymeradwyaeth gan y cabinet, caiff contractau eu dyfarnu i amrywiaeth o weithredwyr lleol a rhanbarthol, a fydd yn dechrau darparu gwasanaethau gwell gyda mwy o gysylltedd o fis Medi 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu