Cytuno ar argymhellion newydd ar gyfer parcio ceir

24 Mehefin 2025

Mae'r argymhellion y cytunwyd arnynt yn cynnwys y canlynol:
- Ailgyflwyno'r tariff parcio 1 awr i bob maes parcio arhosiad hir.
- Cadarnhau tariffau parcio ceir newydd ar gyfer parcio hyd at 1 awr i £1.50, parcio 1-2 awr i £2.50, parcio 2-4 awr i £3.50 a pharcio trwy'r dydd i £5.00.
- Cyflwyno trwyddedau parcio sengl (i'w defnyddio mewn un maes parcio penodol yn unig) am gost o £280 (blynyddol), £155 (6 mis), £90 (3 mis) a £30 (1 mis).
Ochr yn ochr â'r argymhellion hyn, bydd y newidiadau a gytunwyd yn flaenorol i drefniadau parcio deiliaid Bathodyn Glas hefyd yn cael eu cyflwyno. Bydd angen i ddeiliaid Bathodyn Glas brynu tocyn talu ac arddangos ym meysydd parcio'r cyngor nawr ond byddant yn derbyn un awr ychwanegol ar ôl i'w tocyn a brynwyd ddod i ben.
O 20 Mai, mae pob maes parcio wedi gallu derbyn taliadau trwy ffonau symudol gan ddefnyddio'r ap PayByPhone. Mae'r cyfleuster newydd hwn yn golygu y gall gyrwyr dalu am eu sesiwn barcio a'i rheoli trwy eu ffonau a dewis cael negeseuon testun i'w hatgoffa pryd mae eu sesiwn barcio ar fin dod i ben.
"Rydym yn falch o fod wedi cytuno ar ffordd ymlaen gyda'r trefniadau parcio ceir o fewn y sir yn dilyn yr adolygiad trawsbleidiol." meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Werddach.
"Mae'r broses adolygu wedi cymryd mwy o amser nag y byddem wedi'i hoffi, ond roedd yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau ein bod yn gwrando ar ac yn ystyried yr holl adborth ac yn datblygu atebion addas ar gyfer ein cymunedau, y gellir eu cyflawni o fewn cyllidebau'r cyngor ac sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
"Roedd ailgyflwyno'r tariff parcio un awr i feysydd parcio arhosiad hir yn rhywbeth yr oeddem yn awyddus i'w gynnwys, er bod gwneud hynny wedi golygu rhai addasiadau eraill i'n cyllidebau.
"Ynghyd â'r opsiwn a gyflwynwyd yn ddiweddar o dalu am barcio trwy ap ffôn symudol, rydym yn edrych ymlaen at weld yr argymhellion hyn yn cael eu rhoi ar waith mewn meysydd parcio ledled y sir yn fuan."
Bydd y trefniadau parcio ceir newydd yn dod i rym yn Awst 2025.