Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion Powys yn cael eu llongyfarch am lwyddiant yn rownd derfynol Gornest Lyfrau

Image of pupils from Ysgol Pennant celebrate winning the Years 5 and 6 Welsh medium category of the Gornest Lyfrau competition

25 Mehefin 2025

Image of pupils from Ysgol Pennant celebrate winning the Years 5 and 6 Welsh medium category of the Gornest Lyfrau competition
Estynnwyd llongyfarchiadau gan Gyngor Sir Powys i ysgol gynradd yng ngogledd Powys ar ôl ennill cystadleuaeth ddarllen genedlaethol.

Cyrhaeddodd Ysgol Pennant y brig yng nghategori cyfrwng Cymraeg Blynyddoedd 5 a 6 yn Rownd Derfynol y Gornest Lyfrau, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 18 Mehefin yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth.

Prosiect blynyddol yw'r Gornest Lyfrau sy'n annog darllenwyr ifanc blynyddoedd 3-6 i ddarllen er pleser, trafod y llyfrau y maent yn eu darllen, a mwynhau paratoi fideo creadigol, fel grŵp neu ddosbarth, yn seiliedig ar un o'r llyfrau ar y rhestr ddarllen.

Daeth ysgolion o bob cwr o'r wlad at ei gilydd ar gyfer diwrnod rownd terfynol y Gornest Lyfrau i drafod llyfrau, gweithdai creadigol a chyflwyniadau amlgyfrwng.

Gwnaeth ddisgyblion o Ysgol Pennant argraff dda ar y beirniaid gyda'u brwdfrydedd, eu creadigrwydd a'u hymgysylltiad dwfn â'r llyfrau a gyflwynwyd ganddynt. Fel rhan o'r gystadleuaeth, fe wnaethon nhw greu pytiau yn sôn am y llyfrau a gorchuddion ar gyfer y llyfrau, gwylio eu hysbysebion eu hunain am y llyfrau ar y sgrin fawr, a chymryd rhan mewn gweithdy gyda'r awdur Mari Lovgreen.

Canmolodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu, gyflawniad yr ysgol: "Rydym yn hynod falch o Ysgol Pennant am eu llwyddiant eithriadol yn rownd derfynol y Gornest Llyfrau. Mae eu brwdfrydedd dros ddarllen a chreadigrwydd wedi ennill y dydd, ac mae'r fuddugoliaeth hon yn dyst i waith caled y disgyblion a'r staff fel ei gilydd.

"Mae annog cariad at ddarllen yn hanfodol i ddatblygu dysgwyr hyderus, chwilfrydig, ac mae'r cyflawniad hwn yn amlygu cryfder addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys."

Dywedodd Jane Peate, Pennaeth Ysgol Pennant: "Roedd hyn yn gyflawniad enfawr i Ysgol Pennant ac yn gydnabyddiaeth wirioneddol o waith caled, ymroddiad ac angerdd cynyddol ein disgyblion dros ddarllen.

"Diolch i ymdrechion ysbrydoledig ein hathrawes Lowri Roberts, mae ein dysgwyr wedi datblygu mwynhad gwirioneddol o ddarllen, a ddaeth i'r amlwg yn y gystadleuaeth.

"Gydag ysgolion o naw sir yn cystadlu, roedd yn her anodd - ond roedd ennill yn fonws gwych, yn enwedig ar ôl dod yn ail y llynedd a thrydydd yn 2022. Mae'n amlwg mai 2025 yw ein blwyddyn lwcus! Cafodd y dysgwyr a Lowri Roberts ddiwrnod i'w gofio yn Aberystwyth."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu