Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

RHYBUDD SGAM: Rydym wedi cael gwybod am gyfres o negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at drigolion Powys.

Ysgol Bro Caereinion - Penodi Pennaeth Dros Dro

Image of Ysgol Bro Caereinion sign

27 Mehefin 2025

Image of Ysgol Bro Caereinion sign
Mae uwch swyddog addysg Cyngor Sir Powys wedi'i phenodi'n bennaeth dros dro ysgol bob oed yng ngogledd Powys, gan ddod â chyfoeth o brofiad ac arweinyddiaeth i'r rôl.

Mae Anwen Orrells wedi ei phenodi'n Bennaeth Dros Dro Ysgol Bro Caereinion yn dilyn proses recriwtio helaeth a oruchwylir gan gorff llywodraethu'r ysgol.

Mae Mrs Orrells yn siarad Cymraeg yn rhugl gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn addysg, gan gynnwys dros 16 mlynedd mewn arweinyddiaeth addysgol, cynllunio'r cwricwlwm, a gwella ysgolion. Ar hyn o bryd, hi yw Pennaeth Dysgu a Gwella Ysgolion Cyngor Sir Powys ac Arweinydd Strategol Partneriaeth Addysg Canolbarth Cymru.

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Addysg a Chynghorydd Herio Ysgolion Uwchradd gyda'r cyngor yn ogystal ag uwch swyddi arweinyddiaeth yn Ysgol Uwchradd Caereinion ac fel athro yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt.

Dywedodd Myfanwy Alexander, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bro Caereinion: "Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod ni wedi cynnig swydd Pennaeth Dros Dro i Mrs Anwen Orrells ac mae hi wedi derbyn y cynnig.

"Fel wyneb cyfarwydd i lawer yng nghymuned yr ysgol, mae Mrs Orrells yn cyfuno gwybodaeth strategol, sgiliau arwain a doniau heb eu hail fel athro. Mae gan y Corff Llywodraethu'r ffydd fwyaf ynddi ac rydym yn sicr ei bod fel pennaeth profiadol dros ben â'r weledigaeth a all arwain yr ysgol at ddyfodol cyffrous a llwyddiannus."

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Mrs Orrells: "Rwy'n falch iawn o ddechrau fy rôl fel Pennaeth a gweithio mewn partneriaeth agos â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr.

"Gyda'n gilydd, byddwn yn adeiladu ar gryfderau niferus yr ysgol i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i ffynnu. Rwyf wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol, cynhwysol ac uchelgeisiol i bawb, wrth i ni barhau â'n taith ar hyd y continwwm iaith tuag at ddod yn ysgol wirioneddol ddwyieithog."

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae Anwen yn dod â chyfoeth o brofiad a hanes cadarn o arweinyddiaeth addysgol i'w rôl newydd fel Pennaeth Dros Dro Ysgol Bro Caereinion.

"Bydd ei dealltwriaeth ddofn o'r tirlun addysg leol yn ased gwerthfawr i gymuned yr ysgol. 

"Edrychaf ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr ag Anwen a chymuned gyfan Ysgol Bro Caereinion wrth i ni ymdrechu i wella deilliannau addysgol i bob dysgwr. Gyda'n gilydd, rydym yn ymroddedig i hyrwyddo taith yr ysgol ar hyd y continwwm iaith a chyflawni'r nodau yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu