Cryfach, Tecach, Gwyrddach - Cynllun Uchelgeisiol ar gyfer Powys

30 Mehefin 2025

Mae'r cynllun a ddiweddarwyd, sy'n gosod allan gweledigaeth feiddgar a chynhwysol: Cryfach, Tecach, Gwyrddach ar gyfer Powys yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r cyngor llawn ar 10 Gorffennaf, yn dilyn gwaith a wnaed arno gan Gydbwyllgor Craffu'r Cyngor a chymeradwyaeth gan y Cabinet.
Gan gwmpasu 2025-2027, mae'r cynllun yn amlinellu ymrwymiad y Cyngor i wella bywydau trigolion drwy roi cydraddoldeb, cynaliadwyedd a chydnerthedd cymunedol wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud. Mae'n dod ag amcanion llesiant a dyletswyddau cydraddoldeb y Cyngor ynghyd mewn un cynllun integredig.
Un gwelliant allweddol yn y fersiwn ddiweddaraf hon yw'r ffocws cryfach ar addysg - gan sicrhau bod gan bob dysgwr, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau, fynediad cyfartal at addysg o safon a chyfleoedd i lwyddo.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jake Berriman: "Mae'r cynllun hwn yn fwy na dogfen—mae'n addewid i bobl Powys. Mae'n adlewyrchu ein huchelgais gyffredin i adeiladu sir lle gall pawb ffynnu, lle mae gwasanaethau'n hygyrch ac yn gynhwysol, a lle rydym yn cymryd camau beiddgar i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae addysg yn ganolog i'r weledigaeth hon. Drwy fuddsoddi mewn amgylcheddau dysgu cynhwysol o ansawdd uchel, rydym yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol mwy cyfartal a llewyrchus i bawb.
"Wrth i ni gynllunio, rhaid i ni gydnabod yr heriau y mae'r cyngor, pobl Powys a'n partneriaid yn eu hwynebu. Bydd yn rhaid i ni weithredu o fewn cyllidebau sy'n gynyddol gyfyngedig gyda modelu ariannol yn rhagweld bwlch cyllido o £39miliwn yn ein cyllidebau erbyn 2029.
"Yn anochel, mae hyn yn golygu y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd, ac y bydd yn rhaid i'r cyngor addasu i heriau ariannol a demograffig parhaus. Byddwn yn gweithredu mor effeithlon ag y gallwn, ond rydym yn gwybod bod y cyngor yn wynebu dyfodol heriol."
Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Matthew Dorrance: "Mae tegwch wrth wraidd y cynllun hwn. Rydym wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldeb, cefnogi ein gweithlu, a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl - yn enwedig y rhai sy'n wynebu caledi neu wahaniaethu.
"Mae'r cynllun yn cyflwyno set gadarn o fesurau perfformiad i olrhain cynnydd a sicrhau tryloywder, gydag adolygiadau blynyddol ac adroddiadau cyhoeddus rheolaidd.
"Rydym yn gwybod y byddwn yn wynebu heriau ariannol dros oes y cynllun, ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau cynhwysol a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion pobl Powys."
Mae'r blaenoriaethau allweddol yn cynnwys:
- Gwella mynediad at wasanaethau a grymuso preswylwyr i wneud dewisiadau gwybodus.
- Cefnogi cyflogaeth gynaliadwy o ansawdd da a dod yn gyflogwr achrededig Cyflog Byw Gwirioneddol.
- Mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, gan ganolbwyntio ar bolisïau sy'n ystyriol o blant, tai fforddiadwy, targedau cadarn ar gyfer gwella addysg a chael cysylltiad cliriach rhwng amcanion llesiant, cynlluniau busnes integredig a gweithredoedd gweithwyr unigol.