Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Beth yw Cam-drin Domestig?

Mae gan bawb yr hawl i fyw yn rhydd rhag ofn, bygythiadau, a cham-drin, yn enwedig o fewn eu cartref eu hunain. Mae'n bwysig bod y rhai sy'n cael eu heffeithio gan drais a cham-drin domestig yn cael eu cefnogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain.

SAFLE GADAEL

Gall cam-drin domestig gynnwys cam-drin seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol.

Arwyddion o drais neu gam-drin domestig

  • hunan-barch isel, tynnu'n ôl
  • teimlo mai eu bai nhw yw'r gamdriniaeth pan nad yw hynny'n wir
  • Tystiolaeth gorfforol o drais fel cleisiau, toriadau, esgyrn wedi torri
  • cam-drin geiriol a bychanu o flaen eraill
  • Ofn ymyrraeth allanol
  • difrod i gartref neu eiddo
  • Unigrwydd - peidio gweld ffrindiau a theulu
  • mynediad cyfyngedig i arian

Mae cam-drin domestig yn broblem ddifrifol ac eang, er ei fod yn aml yn guddiedig o fewn y teulu. Mae cam-drin yn digwydd ym mhob cymdeithas waeth beth fo'r rhywedd, ethnigrwydd, dosbarth, cenedligrwydd, crefydd, cefndir diwylliannol, anabledd, statws priodasol, oedran neu gyfeiriadedd rhywiol.

Bydd 1 o bob 4 menyw ac 1 o bob 6 dyn yn cael eu heffeithio rhywbryd yn eu bywydau gan gam-drin domestig. Mae dynion yn ogystal â menywod yn gallu bod yn ddioddefwyr, ac mae hefyd yn effeithio ar berthnasoedd o'r un rhyw.

Mae'r gyfraith yn cynnwys ymddygiad rheolaethol ac ymddygiad gorfodaethol o fewn diffiniad cam-drin domestig, ac mae'r diffiniadau hyn yn cynnwys trais ar sail 'anrhydedd', anffurfio organau cenhedlu benywaidd (FGM) a phriodasau gorfodol.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Powys yn gweithio ar Strategaeth i atal Cam-drin Domestig a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr.  Mae'r strategaeth wedi cyrraedd y cam ymgynghori.

 

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu